MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Safle Cyn-Ysgol (Ysgol Trefalwyn)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr

Cynorthwyydd Safle Cyn-Ysgol (Ysgol Trefalwyn)
Swydd-ddisgrifiad
Crynodeb
Yn cynorthwyo arweinydd y safle wrth gynllunio, adolygu a chyflenwi cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ac wrth gefnogi gofal, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion.
Yn cyfrannu at ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y safle lle gall y plant a'r gofalwyr deimlo bod rhywun yn eu gwerthfawrogi, a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau.
Mae'r swydd yn cael cyfarwyddyd gan Arweinydd y Safle neu 'unigolyn cyfrifol' neu aelod arall o staff uwch, ac mae'n atebol i'r sawl hwn.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
1. Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu
grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
2. Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl sydd ar brofiad gwaith neu dan hyfforddiant.
3. Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
4. Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin offer a'i ddefnyddio'n ofalus (e.e. cyfrifiadur) a gosod adnoddau yn ôl cyfarwyddyd arweinydd y safle.