MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: MPS/UPS a CDA 2b ac 1 pwynt AAA
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes dosbarth yn MPS/UPS a CDA 2b ac 1 pwynt AAA (Ysgol Penmaes)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: MPS/UPS a CDA 2b ac 1 pwynt AAA
Athro/Athrawes dosbarth yn MPS/UPS a CDA 2b ac 1 pwynt AAA (Ysgol Penmaes)Swydd-ddisgrifiad
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 30/03/2025
Cyfle Gyrfa i Arweinydd Canol
Athro/Athrawes dosbarth yn MPS/UPS a CDA 2b ac 1 pwynt AAA
Dyddiad dechrau - Medi 2025
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Penmaes yn chwilio am athro/athrawes arloesol, ymroddedig ac ysbrydoledig i weithio fel arweinydd canol gyda'r Uwch Dim Arwain a'r timau MDPh perthnasol, i fod â rhywfaint o gyfrifoldeb ac atebolrwydd am arwain, a rheoli dau faes dysgu a phrofiad, yn ogystal â bod yn athro llawn amser. Bydd y MDPh penodol a ddynodir yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus. Nodwch fod arweinwyr MDPh yn cael eu dosbarthu fel a ganlyn ar hyn o bryd:
● LLC a'r Dyniaethau
● Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Llesiant
● Mathemateg a Rhifedd a Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith, datblygu sgiliau cydweithio a chwarae rhan weithredol yng nghyfeiriad strategol yr ysgol.
Fel rhan o'r rôl hon byddwch yn gweithio'n agos gyda'r ddau ddeiliad CDA arall. Bydd timau Meysydd Dysgu a Phrofiad hefyd yn cefnogi datblygiad pob MDPh.
Byddwch hefyd yn gweithio mewn cydweithrediad â'r Dirprwy Bennaeth - arweinydd cwricwlwm ar gyfer yr ysgol yn ogystal â gyda'r Pennaeth Cynorthwyol sy'n allweddol wrth ddatblygu data ysgol gyfan.