MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Litchard Primary,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £14,429 - £14,904 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Ebrill, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cogydd - Ysgol Gynradd Llidiart
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £14,429 - £14,904 y flwyddyn
Cogydd - Ysgol Gynradd LlidiartDisgrifiad swydd
22.5 awr yr wythnos
Yn ystod tymor yr ysgol
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn adran Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu prydau bwyd mewn ysgolion cynradd, ysgolion arbennig ac ysgolion uwchradd ar draws y fwrdeistref ar gyfer disgyblion a staff drwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r ysgolion unigol.
Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd Cogydd yn Ysgol Gynradd Llidiart yn rheoli ac yn cydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.
Byddant yn gyfrifol am ddarparu'r fwydlen, rheoli dognau, paratoi a choginio, dyletswyddau gweinyddu a goruchwylio staff.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Plant Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 02 Ebrill 2025
Dyddiad llunio rhestr fer: 04 Ebrill 2025
Dyddiad Cyfweld: 28 Ebrill 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person