MANYLION
  • Lleoliad: Monmouth, Monmouthshire, NP25 3YT
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: 28 April, 2025
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg
Mewngofnodwch i ymgeisio

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 – Sgiliau Sylfaenol

Ysgol Gyfun Trefynwy
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 – Sgiliau Sylfaenol

Contract llawn-amser, dros dro Yn dechrau ym mis Ebrill 2025 hyd at 31/8/2025

Graddfa Gyflog: TA3 – Cyngor Sir Fynwy Gradd D SCP 9 – 13 (£26,409 - £28,163 pro rata y flwyddyn)

Yn ystod y tymor, 32 ½ awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn
Dydd Llun I ddydd Gwener, 7 awr y dydd, yn cynnwys ½ awr o egwyl cinio di-dâl Yn dechrau ym mis Ebrill 2025, contract cyfnod sefydlog hyd at 31 Awst


Diolch am eich diddordeb yn y swydd hon.

Rydym yn falch iawn o’n hysgol gynhwysol ac uchelgeisiol, ac mae gennym ddisgwyliadau uchel tu hwnt ar gyfer pob un o’n myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo yn eu galluogi i dyfu ac i ffynnu. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i’n myfyrwyr wneud dau beth syml – gweithio’n galed a bod yn garedig. Mae ein myfyrwyr a’n staff yn ffynnu mewn cymuned lle mae cysondeb a’n harferion yn mynd law yn llaw ag adnabod pob myfyriwr yn dda a’u cefnogi i gyflawni eu potensial.

Mae gennym fudd adeilad ysgol gwych, sydd wedi ennill gwobrau, a gafodd ei gwblhau’n ddiweddar dan raglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae’n gyfleuster modern gwych sydd ag addysg yn greiddiol iddo. Mewn lleoliad yng nghanol Trefynwy, rydym yn gwasanaethu ein cymuned leol yn ogystal ag ardaloedd cyfagos yng Nghymru a hefyd yn Lloegr. Mae gennym tua 1,700 o fyfyrwyr a 200 o staff, ac mae mwy o alw nag o leoedd ar gael ym mhob grŵp blwyddyn.

Rydym yn hollol benderfynol i ddarparu safon rhagorol o addysg ar gyfer pob plentyn sy’n dod i’n hysgol, fel eu bod yn cael cyfle i arwain bywydau hapus a llwyddiannus. Mae ein hymagwedd at y Cwricwlwm i Gymru wedi ei seilio ar bwysigrwydd pynciau ac ar egwyddor gwybodaeth rymus. Mae ein gwaith ar hyn yn destun astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn i rannu ein harfer yn ehangach. Mae ein haddysgeg wedi ei seilio ar dystiolaeth ymchwil ar ddysgu ac ar sut i gynyddu cynnydd myfyrwyr i’r eithaf.

Rydym yn hollol gyfun ac yn darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu. Ar hyn o bryd mae 14% o boblogaeth yr ysgol ar y Gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae gennym hefyd Ganolfan Adnoddau Arbenigol integredig, sydd hefyd yn destun astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn am ei darpariaeth eithriadol o gryf. Daw myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a’r cyfartaledd treigl ar gyfer prydau ysgol am ddim yw 13.8%.

Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr y mae eu nodweddion a gwerthoedd personol yn adlewyrchu’r rhai yn y fanyleb person, ac y mae eu profiadau hefyd yn eu rhoi mewn sefyllfa gryf i gyflawni’r disgrifiad swydd. Caiff rhaglen gynefino lawn a dysgu proffesiynol ystyrlon eu cynnig i'r holl staff.

Byddwch yn ein cael yn grŵp o gydweithwyr cefnogol sy’n gweithio i ddarparu safon eithriadol o addysg ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn ein gofal. Ymfalchïwn yn fawr yn yr hyn a wnawn, a rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol iawn am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd yn y dyfodol.


Diben y swydd:
4.1 Gweithio gyda’r Cydlynydd Anghenion Ychwanegol ac athrawon ADY, drwy gymryd cyfrifoldeb am ddysgu a gytunwyd gydag unigolion neu grwpiau gydag anghenion dysgu ychwanegol i mewn neu tu allan i’r ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno rhaglenni dysgu a monitro myfyrwyr drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniadau, cynnydd a datblygiad myfyrwyr.

Cymryd cyfrifoldeb am weithredu a gwerthuso rhaglenni dysgu a rheoli cynorthwywyr addysgu eraill yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith a hyfforddiant.

Darparu amgylchedd diogel, heriol a chymhellol ar gyfer myfyrwyr a chynorthwywyr addysgu eraill.


Gellir lawrlwytho ffurflenni cais – nid ydym yn derbyn CVs. Gellir anfon ceisiadau drwy e-bost at: mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk
Dylid dychwelyd ffurflenni cais a lenwir ar bapur at: Mrs Laura Claypole, Ysgol Gyfun Trefynwy, Hen Heol Dixton, Trefynwy NP25 3YT.


Dyddiad Cau: Dydd Mercher 26 Mawrth am 12.00 canol-dydd
Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Mercher 2 Ebrill


Mae Diogelu Plant ac Oedolion yn flaenoriaethau allweddol ar gyfer yr Ysgol a’r Cyngor. Anelwn gefnogi plant ac oedolion mewn risg i fod mor ddiogel ag y gallant fod ac i gyflawni eu potensial. Rydych yn gyfrifol am chwarae eich rhan yn llesiant, diogelwch ac amddiffyn plant ac oedolion mewn risg. Bydd gennych gyfrifoldeb i gymryd rhan mewn hyfforddiant i’r lefel briodol o ddiogelu a dyletswydd i gyflawni eich cyfrifoldebau personol dros ddiogelu.

Mae penodiad i’r swydd hon wedi ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac mae’n amodol ar Wiriad Datgeliad Estynedig. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gwybod am a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau yn gysylltiedig ag amddiffyn a diogelu plant, iechyd, diogelwch a sicrwydd, cyfrinachedd a diogelu data, gan hysbysu’r person priodol am bob mater o gonsyrn.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob adran o’r gymuned. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, a chânt eu trin yn gyfartal.

JOB REQUIREMENTS
Addysg/Cymwysterau:
Level 2 Qualification in literacy and numeracy - Essential
Teaching Assistant Qualification - Desirable
First Aid within the Workplace - Desirable

Experience:
Experience of working with students in an education setting - Essential
Experience of supporting learners with identified additional learning needs - Desirable
Experience of delivering targeted interventions within numeracy, literacy and science - Desirable