MANYLION
- Lleoliad: Caernarfon,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
CYFLOG: GRADDFA SOULBURY 25-28 + 3 SPA (29/30/31) - £73,770 - £77,541 / £81,367
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y [Pecyn Gwybodaeth] Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwern Ap Rhisiart ar 01286 679958
Rhagwelir cynnal cyfweliadau ar y 9fed o Ebrill.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 12.00 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 28/03/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda'r gallu i gyflwyno gwybodaeth allweddol mewn ffordd eglur, glir a chryno yn hyderus.
Sgiliau cydweithio cryf gyda'r gallu i ddangos partneriaethau cryf a chydweithio gyda: Staff Ysgol, Penaethiaid, Llywodraethwyr, Cyrff Rheoleiddio, Aelodau Etholedig a Swyddogion Awdurdodau Lleol ehangach.
Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Person egnïol a hyblyg ei natur.
Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant.
Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol yn barhaus.
Y gallu i flaenoriaethu gwaith fel bo'r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio'n annibynnol ac yn strategol.
Meddwl yn drefnus, cywir a chlir, yn enwedig o dan bwysau ac wrth wynebu blaenoriaethau sy'n gwrthdaro, ynghyd â rheoli amser yn effeithiol.
Y gallu i weithio'n sensitif ac ar y cyd ag ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau newid cadarnhaol.
Yn rhoi anghenion y dysgwr yn ganolog mewn addysg.
Gydag uchelgais ar gyfer plant a phobl ifanc a'r penderfyniad i wella eu canlyniadau.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Statws athro neu athrawes gymwysedig.
Cymhwyster CPCP.
Profiad uwch arweinyddiaeth mewn lleoliad addysg berthnasol.
DYMUNOL
Tystiolaeth o astudio pellach e.e. cymhwyster meistri mewn arweinyddiaeth neu addysg.
Cymhwyster rheolaethol.
Cymhwyster ôl-raddedig
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o wella perfformiad ysgol yn sylweddol (mewn swydd arweinyddiaeth mewn ysgol neu weithiwr proffesiynol mewn Awdurdod Lleol neu Gonsortia Rhanbarthol).
Wedi gwneud cyfraniad ehangach i ddatblygiadau addysgol sydd wedi cyfrannu at welliant cynaliadwy sylweddol.
Profiad o reoli cyllideb a phrofiad helaeth o reoli pobl.
Profiad o weithio fel rhan o dîm llwyddiannus.
Profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.
Profiad mewn rôl arwain uwch mewn ysgol neu leoliad addysgol arall e.e. Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth adran/Blwyddyn ac ati.
Profiad mewn rôl arwain uwch.
Wedi rhoi arweiniad a defnyddio sgiliau rheoli'n effeithiol ar lefel uwch er mwyn cefnogi ysgolion.
Wedi rheoli ymyriadau ysgol yn llwyddiannus a fu gyfrannu tuag at welliant cynaliadwy arwyddocaol.
Gallu adnabod themâu allweddol ar gyfer datblygiad a gweithredu o dystiolaeth hunan-arfarnu a sicrhau y caiff angen ei fodloni.
Profiad o wneud cyfraniad ehangach at ddatblygiadau addysgol.
Gallu arfarnu effaith a gweithrediad strategaethau lleol a cenedlaethol tuag at wella perfformiad ysgol ymhellach.
Profiad eang o ddefnyddio a chymhwyso data perfformiad.
Gallu herio perfformiad ysgol, gweithdrefnau olrhain a gosod targed a delio â thanberfformio,
Gallu herio arfer gwael a methu trosglwyddo gweithrediadau angenrheidiol y cytunwyd arnynt a dal uwch reolwyr a llywodraethwyr yn atebol.
Dangos tystiolaeth o allu rheoli a chynnal newid ar gyfer gwelliant gan gyflawni hynny'n fedrus.
Gallu meddwl a gweithio'n hyblyg, yn arloesol, yn annibynnol ac yn strategol tra hefyd yn meddu ar sgiliau cydweithredol a logistaidd cryf.
Gallu gweithio dan bwysau a cwrdd ag amserlenni tynn.
Bod yn fodlon gweithio tu allan i oriau gweithio arferol pan fo angen.
DYMUNOL
Profiad o wella ysgol tu hwnt i'w hysgol eu hunain neu fod yn weithiwr proffesiynol gwella addysg ar y pryd gyda swyddogaeth arweinyddiaeth arwyddocaol mewn ysgol neu Awdurdod Lleol.
Profiad eang o reoli cyllideb a staff.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol gan gynnwys y cwricwlwm newydd.
Sgiliau cyfathrebu cryf i allu datblygu dulliau cyflwyno ac ymgysylltu gan gynnwys dulliau digidol.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o bolisi cyfredol y Llywodraeth ynghylch plant sy'n derbyn gofal .
Gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau deddfwriaeth a fframweithiau addysgol cyfredol, yn enwedig y rhai sy'n canolbwyntio ar wella ysgolion ac i ddehongli rheoliadau/canllawiau amrywiol er mwyn darparu cyngor ac arweiniad perthnasol i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau deddfwriaeth a fframweithiau addysgol cyfredol yn cynnwys gwella ysgolion sy'n wynebu anawsterau.
Gwybodaeth gadarn o'r hyn sy'n effeithio ar ansawdd mewn darpariaeth addysgol, nodweddion ysgolion effeithiol a'r strategaethau ar gyfer gwella arfer addysgu effeithiol a llwyddiannau disgyblion.
Dealltwriaeth gadarn o'n rheolaeth ysgol effeithiol, yn cynnwys cyfraith cyflogaeth, deddfwriaeth cyfleoedd cyfartal ac anabledd, personél a chyllid .
Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth cyfle cyfartal a'r materion sy'n ymwneud â chyflawni gwahanol grwpiau o ddisgyblion
Meddu ar wybodaeth o sut mae cydweithio â phartneriaid allweddol, asiantaethau a gwasanaethau cefnogi yn cyfrannu tuag at wella ysgol.
Y gallu i weithio ar y cyd ag eraill a dangos parodrwydd i rannu sgiliau, arbenigedd, gwybodaeth a gallu tra'n cydnabod ffiniau proffesiynol.
Y gallu i ddatrys problemau a dangos diplomyddiaeth wrth ddelio â materion sensitif.
Yn fedrus wrth werthuso a dadansoddi dangosyddion perfformiad a nodi'r ffactorau sy'n hyrwyddo neu'n rhwystro cynnydd.
Cyfrannu at Gynllunio Busnes y Gwasanaeth Addysgol sy'n cynnwys nodi targedau a risgiau yn ogystal â monitro ei weithrediad.
Gallu creu cysylltiadau a sefydlu partneriaethau gan gynnwys partneriaethau cymunedol a gyda gwasanaethau perthnasol eraill
Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o dechnoleg gwybodaeth.
DYMUNOL
Profiad o ddelio ag undebau llafur i ennyn newid a chefnogaeth gadarnhaol i ysgolion ac arweinwyr.
Dealltwriaeth o lwyfan Hwb Llywodraeth Cymru
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud
• Mewn cydweithrediad â'r Pennaeth Addysg, arwain ar gyfeiriad strategol yr Adran Addysg mewn perthynas â safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth i gefnogi agweddau statudol ac anstatudol addysg ym mhob lleoliad addysgol yng Ngwynedd.
• Arwain tîm o Swyddogion Cefnogi Ysgolion.
• Arwain y tîm cefnogi ysgolion i ddarparu cymorth a her briodol er mwyn hyrwyddo a chynnal gwelliant a sicrhau her effeithiol i gyflawni dyletswyddau statudol yr Awdurdod Lleol.
• Sicrhau addysg o ansawdd uchel i bob plentyn a pherson ifanc drwy weithio gydag arweinwyr ysgolion ac eraill i gyfrannu at ddatblygiad, gwella ac effeithiolrwydd ysgolion.
• Gweithio mewn partneriaeth yn lleol ac yn rhanbarthol i ddarparu cyngor ac arweiniad i ysgolion a'r Awdurdod ar addysg.
• Arwain ar ddatblygu diwylliant cadarnhaol sydd yn gefnogol, a herio holl ysgolion Gwynedd mewn ffordd agored a thryloyw
• Dirprwyo ar ran y Pennaeth Addysg yn unol â'r gofyn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Cyfrifoldeb am dîm o Swyddogion Cefnogi Ysgolion.
Cyfrifoldeb am y Gwasanaeth Ieuenctid.
Cyfrifoldeb dros y ddarpariaeth i gefnogi'r Gymraeg.
Cyfrifoldeb am flaenoriaethu a chynllunio defnydd o grantiau penodol o fewn y maes.
Cyfrifoldeb am gynnal safonau, arweinyddiaeth, llywodraethiant, rheolaeth nifer o ysgolion penodol.
Cyfrifiadur a ffôn symudol.
Prif Ddyletswyddau. .
Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion ddatblygu adnabyddiaeth dda o ysgolion Gwynedd gan sicrhau fod y tîm cefnogi yn gweithredu yn unol â'r angen ar yr ystod lawn o agweddau sydd yn sicrhau fod disgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig.
Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion a'r tîm y bydd yn ei arwain fod yn gefn i benaethiaid Gwynedd gan weithio ochr yn ochr â hwy i oresgyn ystod eang o heriau sydd yn wynebu ein hysgolion o ddydd i ddydd. Mae'n ddisgwyliedig y bydd y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion yn arwain y tîm fel eu bod ar gael ac yn ymateb yn brydlon a chynnig arweiniad o ansawdd.
Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion sicrhau fod y Gwasanaeth Ieuenctid yn cwrdd ag anghenion pobl ifanc Gwynedd a'r disgwyliadau statudol ddaw ynghlwm ar ddarpariaeth bwysig yma.
Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion fod a throsolwg ar y gefnogaeth i'r Gymraeg yn ei sefydliadau addysgol gan gynnwys bod a throsolwg o'r ddarpariaeth drochi, siarter iaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau strategol y maes.
Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion mewn cydweithrediad â'r Pennaeth Addysg feithrin y diwylliant lle bod ysgolion yn cefnogi ei gilydd gyda sylw pawb ar sicrhau fod plant Gwynedd yn gwneud cynnydd ac yn cyrraedd eu llawn botensial.
Disgwylir i'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion gyflawni'r swydd trwy gyfeirio'n uniongyrchol at y Deddfau Addysg, Fframwaith Gwella Ysgolion, Rheoliadau, Codau Ymarfer a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig sy'n ymwneud â'r swydd.
Mae'n swydd heriol ac mae disgwyl i'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion fod a lefelau uchel o wybodaeth arbenigol, sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu ac arweinyddiaeth, a ddiffinnir gan Safonau Cenedlaethol.
Fe ellid gofyn i d'eilydd y swydd arddel cyfrifoldeb a rheolaeth strategol ar lefel gwasanaeth cyfan o rai agweddau o ran y gwasanaethau addysg yng Ngwynedd fel y pennir gan y Pennaeth Addysg â'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion.
Er mwyn bod yn effeithiol fel Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion, mae angen :
• bod â phrofiad perthnasol a hygrededd a ddaw o arwain yn llwyddiannus mewn ysgol;
• perthnasu'n dda ag eraill gan adlewyrchu'r diwylliant yr ydym yn dymuno ei feithrin yng Ngwynedd;
• dangos y gallu i ddylanwadu ar a dwyn perswâd ar eraill i weithredu, a hefyd dangos sgiliau hyrwyddo
ar lefel uchel, a hynny'n aml o dan amgylchiadau heriol, ac
• arddangos y safonau sydd eu hangen i reoli a chefnogi'r unigolion a'r timau er mwyn cyflawni amcanion
cyffredinol y Gwasanaeth Addysg yng Ngwynedd.
Cyfrifoldebau a Dyletswyddau
Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol am y gwasanaethau canlynol;
• Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd
• Gwasanaeth Cefnogaeth Ysgolion
• Y Gymraeg
Gweithredu fel rheolwr llinell i dîm o Swyddogion Cefnogi Ysgolion.
Sicrhau bod Swyddogion Cefnogi Ysgolion yn darparu arweiniad i ymholiadau Penaethiaid yn effeithiol ac effeithlon.
Annog y Swyddogion Cefnogi Ysgolion i fod yn rhannu arbenigeddau ac yn goresgyn heriai drwy gydweithio. Nid oes disgwyl i'r Swyddogion Cefnogi Ysgolion fod yn arbenigwyr ymhob maes.
Arwain ar ddatblygu ein defnydd o ddata perfformiad ar bob lefel i alluogi cynllunio bwriadus ac effeithiol.
Cynllunio a sicrhau cydweithio ffurfiol rhwng ysgolion er mwyn gweithredu arfer dda a rhagorol trwy hyrwyddo'r cysyniad o sefydliad sydd yn dysgu.
Sicrhau bod y Swyddogion Cefnogi Ysgolion yn hyrwyddo cydweithio yn gyson.
Sicrhau bod y Swyddogion Cefnogi Ysgolion yn derbyn arweiniad a chefnogaeth fel eu bod nhw'n medru cynnig cefnogaeth a gosod her i ddysgu ac addysgu yn y dosbarth (addysgeg). Darparu cefnogaeth iddynt gynghori ar ddulliau dysgu, addysgu a sgiliau, ac ar arfarnu ansawdd y dysgu a'r addysgu yn ogystal â nodi arferion dysgu ac addysgu effeithiol y gellir eu cyd-rannu o fewn, ac ar draws Gwynedd.
Cyfrannu at gynllunio a darparu Cynnig Dysgu Proffesiynol i sicrhau Gwella Ysgolion ar draws Gwynedd mewn ymateb i flaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Cydlynu cefnogaeth gwricwlwm fydd yn ei ddatblygu a'i wella.
Cynllunio'n ofalus raglen flynyddol fydd yn cael ei gyflwyno gan y Swyddogion Cefnogi Ysgolion fydd yn darparu cymorth a her broffesiynol a hynny ar draws meysydd allweddol megis:
• Cynnydd pob Dysgwr (gan gynnwys grwpiau o ddysgwyr megis ADY, PYD ac ati).
• Arweinyddiaeth a Rheolaeth
• Llywodraethiant
• Addysgu a Dysgu
• Cynllunio a Chefnogi'r Cwricwlwm.
Cydweithio â'r Pennaeth Cynorthwyol ADY a Chynhwysiad er mwyn sicrhau arweiniad ar agweddau o'r maes Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiad a lles gan sicrhau mewnbwn arbenigwyr lle'n briodol.
Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol drwy orchwylio prosesau hunanwerthuso, cynllunio gwelliant a sicrhau ansawdd.
Arwain y gwaith o lunio cynlluniau gwella ôl arolwg gan sicrhau fod mewnbwn yr Awdurdod Addysg yn glir ac effeithiol er sicrhau cynnydd.
Comisiynu cefnogaeth fyddai'n cyfrannu tuag at ddatrys materion penodol. Fe all hyn gynnwys comisiynu cefnogaeth allanol.
Arwain ar sicrhau gweithredu cyflym ac effeithiol wrth fonitro safonau a chynnydd mewn ysgolion ac i frocera cymorth ychwanegol effeithiol i ysgolion, yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys arwain ar gynlluniau cymorth ar gyfer ysgolion y cytunwyd arnynt.
Cydlynu'r gwaith o gael aelodau'm i arwain ar agwedd gytøn ar wella ysgolion ar draws Gwynedd a pe byddai'r angen Ynys Môn. Arwain ar y gwaith o bennu pwy sydd yn arwain ar beth yn seiliedig ar brofiad ac arbenigedd ar draws y tîm.
Meithrin, cynnal a datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda strategaethau rhanbarthol, cenedlaethol a chyrff allanol eraill, paratoi a chyflwyno gwybodaeth ar gyfer monitro allanol fel y bo'n briodol gan gynnwys arolwg Estyn o'r Gwasanaeth Addysg a'r Gwasanaeth Ieuenctid.
Gweithio gydag arweinwyr ysgolion i baratoi ar gyfer ymweliadau Estyn (ysgol, ac Awdurdod Lleol) a chyfrannu atynt, ac i gefnogi unrhyw weithgaredd dilynol perthnasol.
Arwain ar sefydlu a chynnal gwaith partneriaeth hynod effeithiol gyda Phenaethiaid a Chyrff Llywodraethu, er mwyn sicrhau bod datblygiad yn cael ei gyfoethogi gan yr arbenigedd sydd eisoes yn bresennol mewn ysgolion.
Sicrhau ein bod yn darparu cyngor ac argymhellion ar benodiad, rheoli perfformiad (PDR) a mentora Penaethiaid gan gynnwys cefnogi cyrff llywodraethu gyda phrosesau'r uchod.
Cyfrannu yn strategol at gynlluniau moderneiddio ysgolion sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
Mewn cydweithrediad â Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid sicrhau ansawdd gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid gan sicrhau cydymffurfiaeth y ddarpariaeth a gofynion statudol.
Mewn cydweithrediad â Pennaeth y Gyfundrefn Drochi sicrhau ansawdd a chynnydd y ddarpariaeth i gefnogi'r iaith Gymraeg gan sicrhau cydymffurfiaeth y ddarpariaeth a gofynion statudol a strategaeth iaith Gwynedd.
Sicrhau yr ymdrinnir â chwynion/ymholiadau yn effeithlon a rhoddir cyngor priodol ac amserol i Benaethiaid, Llywodraethwyr, rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd.
Ychwanegol
• Bydd natur y gwaith yn golygu bod d'eilydd y swydd yn cyflawni gwaith tu allan i oriau gwaith arferol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Gall bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd, o dro i dro, fynychu cyrsiau hyfforddi, cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd eraill fel sy'n ofynnol yn sgîl ei anghenion hyfforddiant ac anghenion y Gwasanaeth.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi