MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Generig) (Dim staff) (Ysgol Y Mynydd Du)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Generig) (Dim staff) (Ysgol Y Mynydd Du)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Dan gyfarwyddyd cyffredinol yr Uwch Dîm Rheoli, cefnogi prosesau gweinyddol, ariannol a threfniadaethol yn yr ysgol a chynorthwyo i gynllunio a datblygu gwasanaethau cefnogi i staff addysgu a disgyblion. Goruchwylio tîm bach o staff clercyddol / gweinyddol. (Lle y bo'n briodol) Rhywfaint o gyfrifoldeb cyllidebol.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am oruchwylio staff eraill, os o gwbl, er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Mae gan y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol am drin arian, prosesu sieciau, anfonebau neu bethau tebyg, ac mae'n atebol am hyn, ac mae'n atebol am gyllideb fechan.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb
uniongyrchol am adnoddau ffisegol, gan gynnwys trin a phrosesu gwybodaeth mewn modd gofalus, cywir, cyfrinachol a diogel
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS