MANYLION
- Lleoliad: Pontypool, Monmouthshire, NP4 0AH
- Testun: Pennaeth
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
This job application date has now expired.
Mae Ysgol Gynradd Goytre Fawr yn ysgol ffyniannus a chynhwysol, wedi ei lleoli yng nghalon y gymuned, lle caiff pob plentyn ei werthfawrogi, ei gefnogi a’i ysbrydoli i gyflawni eu potensial llawn. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ei hawyrgylch cynnes a chyfeillgar, partneriaeth gref gyda rhieni a gofalwyr a thîm staff ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg ansawdd uchel ac yn credu mewn uchelgais academaidd wych ar gyfer pob plentyn.
Mae cwricwlwm yr ysgol yn ddiddorol a chreadigol ac wedi ei gynllunio i ddatblygu dysgwyr hyderus a chydnerth sydd wedi paratoi ar gyfer y dyfodol. Gyda chyfleusterau rhagorol, ardaloedd awyr agored braf a phwyslais cryf ar lesiant, mae Ysgol Gynradd Goytre Fawr yn rhoi amgylchedd cefnogol lle gall pob plentyn ffynnu yn academaidd ac yn bersonol.
Mae’r ysgol goedwig yn rhoi amgylchedd dysgu deniadol ac ysgogol o fewn tiroedd yr ysgol; mae’r sesiynau yn helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth o amgylchedd coetir a hyrwyddo hyder, sgiliau meddwl a datrys problem, hunan-barch a sgiliau bywyd.
Mae’r Wythnos Anghymesur, a gyflwynwyd ym mis Medi 2023, yn rhoi cyfleoedd i staff ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol fydd yn arwain at addysgu ansawdd uwch a gwell deilliannau dysgu ar gyfer ein plant.
Yn dilyn ymddeoliad ein Pennaeth llwyddiannus, mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i recriwtio arweinydd eithriadol sy’n angerddol ac yn ysbrydoli i barhau i ddatblygu gweledigaeth ac ethos yr ysgol, gosod disgwyliadau uchel ac yn rhoi pwyslais cryf ar rymuso staff a disgyblion fel ei gilydd. Croesawn geisiadau gan benaethiaid presennol a hefyd uwch arweinwyr profiadol sy’n edrych am eu penodiad cyntaf fel pennaeth, a all ddod â’r sgiliau, egni a brwdfrydedd angenrheidiol i arwain ein hysgol.
JOB REQUIREMENTS
Gweler atodiad