MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Uwch Weithiwr Cefnogi
37 awr yr wythnos
Graddfa Gyflog G07
£30,559 - £32,115
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn sefydliad aml-asiantaeth sydd â'r weledigaeth o helpu i greu: "Wrecsam sy'n ddiogel ac yn rhydd rhag trosedd i bawb, lle mae plant a phobl ifanc yn ddinasyddion gwerthfawr o fewn eu cymuned".
Mae cyfle wedi codi i ddau Uwch Weithiwr Cefnogi ymuno â'r tîm am gyfnod penodol, tan fis Mawrth 2026.
Disgwylir i Uwch Weithiwr Cefnogi ddangos brwdfrydedd ac ymrwymiad i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd mewn peryg o droseddu ac ail-droseddu. Disgwylir i'r ymgeisydd arddangos gwerthoedd sydd yn cefnogi dulliau sy'n seiliedig ar drawma a'r plentyn yn gyntaf.
Fel Uwch Weithiwr Cefnogi, byddwch yn gyfrifol am reoli a chefnogi anghenion a risgiau plant a phobl ifanc sy'n ymgysylltu â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar sail Atal a Gwarediad y Tu Allan i'r Llys. Bydd disgwyl i chi hefyd ymgymryd â gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc sy'n destun Gorchmynion Llys Statudol.
Bydd gan yr ymgeisydd brofiad o gwblhau asesiadau, darparu ymyriadau a rheoli anghenion a risgiau cymhleth.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Amy Hutchinson, Arweinydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal, ar 01978 298739
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg