MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes Trochi Iaith Cymraeg

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

**Cyfyngir y swydd hon i ymgeiswyr mewnol yn unig**

CYFARWYDDIAETH ADDYSG Cyngor Sir Penfro

Yn eisiau: ar gyfer 1 Ebrill, 2025 neu cyn gynted a phosib wedi hynny.

ATHRO/ATHRAWES TROCHI IAITH CYMRAEG (Cyfnod Sylfaen)

SWYDD RHAN AMSER DROS DRO HYD AT 31.03.2026.

Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am athro/wes i ymuno â gweithlu'r Canolfannau Iaith a Gwasanaeth Addysg Cymraeg yr Awdurdod Addysg i gydweithio gydag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i gefnogi dysgwyr i gaffael y Gymraeg.

Dyma gyfle cyffrous ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus o fewn Cyfundrefn Addysg Drochi arloesol i hwyrddyfodiaid yn Sir Benfro. Telir cyflog yn unol â Graddfa Cyflog Athrawon (£32,433- £49,944) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgolion yn gweithredu'n unol a'u Polisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu ag Elin Fry, frye37@hwbcymru.net neu Catrin Phillips phillipsc58@hwbcymru.net

DYDDIAD CAU: 23:59 Y.H, DYDD LLUN, 17 MAWRTH, 2025.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.