MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944 + TLR 1B £12,247
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944 + TLR 1B £12,247
PENNAETH CYMRAEG A CHYFRIFOLDEB YSGOL GYFAN AM LLYTHRENNEDD CYMRAEG- TLR 1BLlawn Amser/Parhaol
Tâl: Prif Raddfa
Ar gyfer mis Medi 2025.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i berson arloesol, sy'n gweithio'n galed ac yn uchelgeisiol i arwain adran rhagorol i'r cam nesaf yn ei datblygiad.
Mae Ysgol Bro Gwaun yn ysgol uwchradd ddwyieithog 11-16 ar safle hardd sy'n edrych dros Harbwr Abergwaun. Rydym yn ysgol orlawn a phoblogaidd. Mae ein adeilad £14 miliwn newydd yn cynnig cyfuniad perffaith rhwng dysgu traddodiadol ac arloesol, sydd wir yn creu amgylchedd dysgu a chyfleusterau eithriadol.
Rydym yn chwilio am raddedigion brwdfrydig, dyfeisgar ac uchelgeisiol, gyda gradd mewn Cymraeg neu bwnc sy'n gysylltiedig a'r Gymraeg, a gyda hanes o lwyddiant mewn arholiadau ar draws pob cyfnod. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y weledigaeth i symud adran lwyddiannus ymlaen a chodi'r safonau uchel presennol i sicrhau bod disgyblion yn parhau i ffynnu yn y pwnc.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â Mr Paul Edwards, Pennaeth, head.teacher@ysgolbrogwaun.com neu 01348 872268.
Mae Ysgol Bro Gwaun yn gweithredu polisiau Diogelu Gwasanaeth Addysg Sir Benfro. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau hyn ar gyfer ein holl ddisgyblion ac yn cydnabod hawl pob un i dderbyn y gefnogaeth hon. Gweithredir hyn yn unol â blaenoriaethau ac ethos yr ysgol.
Dyddiad cau: 27 Mawrth 2025
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hafodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.