MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes – Ysgolion Cynradd Gatholig Mair Ddihalog a Theilo Sant

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

Athro ysgol gynradd llawn amser



Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Mair Ddihalog a Theilo Sant

Prif raddfa

Dyddiad dechrau: Medi 2025

Gan weithio mewn partneriaeth ag Esgobaeth Mynyw a Chyngor Sir Penfro, mae corff llywodraethu'r ffederasiwn newydd hwn o ysgolion cynradd Catholig am benodi athro dosbarth rhagorol.

Tra bod y swydd gwag yn Ysgol Gatholig Teilo Sant, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi i 'Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Mair Ddihalog a St. Teilo'.

Yr ysgolion

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Mair Ddihalog (NOR 202) wedi'i lleoli yn nhref sirol fywiog Hwlffordd ac mae ganddi "ethos hynod ofalgar a meithringar" (ESTYN, Mawrth 2023).

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant (NOR 81) wedi'i lleoli yn nhref glan môr hardd Dinbych-y-pysgod ac mae ganddi "weledigaeth glir [...] ac yn gwerthfawrogi pob disgybl fel unigolyn" (Estyn, 2018).

Yr ymgeisydd llwyddiannus

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi i'r ffederasiwn ond yn gweithio i ddechrau ar gampws Ysgol Teilo Sant. Bydd yn frwdfrydig, yn fyfyriol ac yn ymroddedig i wella ei ymarfer ei hun. Mae croeso i athrawon profiadol ac athrawon newydd gymhwyso ymgeisio.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bodloni meini prawf y disgrifiad swydd ac:

  • yn ddelfrydol yn meddu ar wybodaeth o'r ffydd Gatholig a bod yn barod i addysgu'r cwricwlwm addysg grefyddol Gatholig,
  • yn ymarferydd cynradd llwyddiannus ac yn frwdfrydig dros addysg y disgyblion yn ei ofal,
  • yn ymroddedig i ddysgu ac i ddatblygiad plant, gan ddangos y gallu i gymhwyso'r wybodaeth hon i sicrhau'r canlyniadau gorau i bob dysgwr,
  • yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o arfer pedagogaidd cyfredol a gallu cymhwyso'r rhain i ddysgu'r disgyblion,
  • yn garedig, yn amyneddgar ac yn llawn cydymdeimlad.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am ragor o fanylion am y swydd hon.

Cysylltwch â Mrs. Jo Hinds, Pennaeth Gweithredol, os hoffech drafod y swydd neu ymweld â'r ysgol: head.stteilos@pembrokeshire.gov.uk

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus lofnodi contract cyflogaeth Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig.

Cwblhewch y fersiwn diweddaraf o'r ffurflen gais a ddarperir gan Wasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig . Anfonwch y ffurflen wedi'i chwblhau at Damon McGarvie, Ymgynghorydd Gwella Ysgolion: mcgarvied@hwbmail.net

Dyddiad cau: 27 Mawrth 2025

Llunio'r rhestr fer: 28 Mawrth 2025

Cyfweliadau: 3 Ebrill 2025

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.