MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Ysgol Gynradd Rhosddu

Lôn Price, Rhosddu, Wrecsam LL112NB

Ffôn: 01978 318830

Pennaeth: Mrs P Woods

Teitl y swydd: Gofalwr

G04: £24,790 - £25,183

30 awr yr wythnos

41 wythnos y flwyddyn

Parhaol

I ddechrau: Ebrill 2025

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG, HEB WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Rydym yn chwilio am Ofalwr sy'n llawn cymhelliant, yn ddibynadwy, yn canolbwyntio ar y gymuned ac yn gyfeillgar, i ymuno â'n hysgol yn llawn ym mis Ebrill 2025.

Rydym yn awyddus i gyflogi person brwdfrydig sydd â synnwyr digrifwch da ac sy'n flaengar, a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal a chadw safle'r ysgol, er mwyn sicrhau amgylchedd croesawgar a diogel i gymuned yr ysgol gyfan.

Yr oriau gwaith arferol yn ystod y tymor yw 7.00am - 9.30am a 2.30pm - 6.00pm. Rhaid cymryd gwyliau blynyddol yn ystod gwyliau'r ysgol. Gellir cytuno ar oriau gwaith yn ystod gwyliau'r ysgol gyda'r Pennaeth.

Byddwch yn gyfrifol am gadw'r ysgol yn ddiogel, yn gallu gwneud mân waith cynnal a chadw, gwneud gwiriadau diogelwch yn ôl yr angen a sicrhau bod cofnodion digonol yn cael eu cynnal. Fel prif ddeiliad yr allweddi, byddwch hefyd yn gyfrifol am ddatgloi a chloi'r ysgol bob dydd.

Byddwch yn trefnu symud gwastraff o'r adeilad a'r tir yn effeithlon, gan gynnwys ailgylchu, ac yn sicrhau bod y mannau awyr agored yn cael eu cadw'n glir o chwyn, dail, sbwriel a malurion.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein hwn ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion eto - llenwch y ffurflen gais PDF sydd wedi'u hatodi isod yn electronig os gwelwch yn dda. Os oes angen i chi lenwi'r ffurflen â llaw, argraffwch, llenwch a dychwelwch y ffurflen i'r ysgol os gwelwch yn dda.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi i'r Pennaeth yn uniongyrchol drwy'r cyfeiriad e-bost isod:
mailbox@rhosddu-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen DBS Uwch ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 14 Mawrth 2025
CYFWELIADAU: Wythnos y 24ain o Fawrth 2025