MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Arweiniol Lles a Diogelu

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swyddog Arweiniol Lles a Diogelu
52 wythnos neu 38 wythnos (yn ystod y tymor yn unig)
I'w drafod yn y cyfweliad
G08: £33,366 - £36,124 pro rata

Yn Ysgol Sant Christopher, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel a meithringar lle gall pob plentyn ffynnu.
Fel Ysgol Arbennig, rydym yn blaenoriaethu diogelu a lles ein disgyblion a'n staff, gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u cefnogi. Credwn fod sylfaen gref mewn lles yn hanfodol ar gyfer llwyddiant a datblygiad ein myfyrwyr.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a phrofiadol i ymuno â'n tîm lles fel Arweinydd Lles a Diogelu.
Mae hon yn rôl hanfodol fydd yn rhoi arweiniad a chyfeiriad mewn arferion diogelu, gan sicrhau bod diogelwch a lles ein disgyblion a'n staff yn flaenllaw i bopeth a wnawn.
Dychwelwch geisiadau i Lorna Roberts RobertsL210@HwbCymru.net

Nodwch fod pob swydd ysgol yn destun gwiriad manwl gan y GDG
(Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) a chofrestru gyda CGA (Cyngor y Gweithlu Addysg)

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.