MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,608 - £36,748
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cydlynydd Marchnata CC/2819

Coleg Cambria

Cyflog: £32,608 - £36,748

Job description Job Profile & Person Specification

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cydlynydd Marchnata

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Tymor Sefydlog, Llawn Amser (Cyfnod Mamolaeth)

Graddfa Gyflog: £32,608 - £36,748

Mae gennym swydd wag ar gyfer Cydlynydd Marchnata. Mae'r swydd hon yn gyfrifol am ddatblygu a chydlynu cyfathrebu a chasglu a chreu cynnwys ar gyfer y meysydd canlynol: Dysgu yn y Gwaith, Ymgysylltu â Chyflogwyr, Sefydliad Technoleg, Datblygu Proffesiynol (Ysgol Fusnes), Dysgu i Oedolion, Cymuned ac Elusen, Siop Swyddi, Gwasanaethau i Fyfyrwyr a'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig, a Datblygu Cyn-fyfyrwyr.

Bydd gan ddeiliad y swydd bresenoldeb amlwg iawn yn y meysydd hyn a bydd ganddynt ddull rhagweithiol i godi eu proffil. Byddant yn gwneud hyn wrth ddatblygu cysylltiadau cadarn yn y meysydd ac wrth fod yn bresennol mewn cyfarfodydd adrannol. Gallai meysydd hyrwyddo gynnwys digwyddiadau, casglu a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd ar-lein ac all-lein, cyhoeddiadau, fideograffeg, astudiaethau achos, hyrwyddo cyn-fyfyrwyr ac ati.

Cyfrifoldebau ac atebolrwydd:
  • Datblygu perthnasoedd cadarn, rhagweithiol a chynghorol gyda meysydd cyfrifoldeb er mwyn cynyddu cyfleoedd hyrwyddo
  • Gweithio gyda'r Rheolwr Marchnata Digidol, Cyfathrebu a Digwyddiadaul i:
  • ddyfeisio, datblygu, cyflwyno a gwerthuso cynlluniau marchnata blynyddol ar gyfer meysydd cyfrifoldeb
  • cyflwyno ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu allanol i feysydd cyfrifoldeb
  • cydlynu cyhoeddi deunydd marchnata a chynnwys marchnata ar-lein a gweithio gyda'r tîm digidol i greu cynnwys ar gyfer ar-lein
  • Mesur effeithlonrwydd a chanlyniadau'r holl weithgareddau marchnata gan gynnwys digwyddiadau, cyhoeddiadau, cynnwys a chynlluniau cyn-fyfyrwyr sy'n gysylltiedig â meysydd cyfrifoldeb
  • Cydlynu digwyddiadau marchnata sy'n gysylltiedig â meysydd a sicrhau eu bod wedi'u staffio, eu cynllunio, yn cael eu hadolygu a'u gwerthuso
  • Gweithio gyda staff yn y tîm sy'n gyfrifol am gysylltu ag ysgolion a chynyddu'r perthnasoedd gydag ysgolion lleol, chweched dosbarth, Gyrfa Cymru a sefydliadau eraill i godi proffil y meysydd y mae deiliad y swydd yn gyfrifol amdanynt
  • Cynorthwyo presenoldeb cyfryngau cymdeithasol ar draws y coleg wrth bostio, creu cynnwys a staffio cyfrifon pan fo angen

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster marchnata Lefel 4 neu uwch neu'n barod i weithio tuag at hynny
  • Gyda chymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 2 neu'n barod i weithio tuag at hynny
  • Profiad diweddar mewn swydd debyg
  • Profiad o gynllunio a chynnal digwyddiadau ar raddfa fawr
  • Profiad o reoli prosiectau a digwyddiadau cyhoeddi
  • Cymryd sylw at fanylion, safonau uchel a sgiliau prawf ddarllen
  • Gallu teithio ar draws y safleoedd ac i leoliadau allanol


Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed', yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar y safle

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai