MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes- Ffederasiwn Ysgolion Casmael a Llanychllwydog

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

Swydd Dysgu Pen Agored Ysgol Llanychllwydog

Mae Pennaeth a Llywodraethwyr Ffederasiwn Ysgolion Casmael a Llanychllwydog am benodi athro/athrawes ysbrydoledig a hynod effeithiol ar gyfer dosbarth o ddisgyblion Blwyddyn 3,4,5 a 6 yn Ysgol Llanychllwydog. Rydym yn ysgol fywiog, hapus ac annogol lle mae darparu amgylchedd diogel a gofalgar yn flaenoriaeth. Mae Ysgol Llanychllwydog yn Ysgol unigryw sydd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth gref a balchder mawr yn eu hardal a'u chymuned yn llwyddiannus.

Rydym yn chwilio am ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol sydd ag angerdd dros ddysgu plant ac sy'n ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf. Byddant yn rhan o staff uchelgeisiol a blaengar ac yn gallu datblygu perthynas gadarnhaol gyda myfyrwyr, staff a rhieni ac yn gwneud cyfraniad i'r ethos tîm cryf sydd yn nodwedd o'r ffederasiwn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn sy'n croesawu athroniaethau'r Cwricwlwm i Gymru'n greadigol ac sy'n barod i gyfrannu at fywyd ysgol gyfan.

Mae'r gallu i siarad, ysgrifennu ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbl angenrheidiol.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso ac athrawon profiadol.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac yn ofynnol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Amanda Lawrence (Pennaeth) ar 01348 881307 / head.llanychllwydog@pembrokeshire.gov.uk

Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.