MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £39,513 - £42,708 y flwyddyn (G08)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Gweithiwr Cymdeithasol Addysg \/ Swyddog Lles Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: £39,513 - £42,708 y flwyddyn (G08)
Lleoliad gwaith: Ysgolion Sir Conwy/ Coed PellaRydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol brwdfrydig a gwydn i ddarparu cefnogaeth ac ymateb o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc yng Nghonwy sy'n ei chael hi'n anodd mynychu'r ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cwblhau asesiad cynhwysfawr o'r angen ynghylch presenoldeb ysgol rheolaidd, tra'n ystyried anghenion unigol gan gynnwys; anghenion dysgu ychwanegol, lles emosiynol ac amgylchiadau teuluol, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Ffion Hughes, Rheolwr Dros Dro 01492 575032 Ffion.hughes@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.