MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthen, SA32 8NJ
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,623 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cyflog: £25,623 / blwyddyn

Cowmon
Application Deadline: 14 March 2025

Department: Farm Services

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Y Gelli Aur

Reporting To: Rheolwr y Fferm

Compensation: £25,623 / blwyddyn

DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i berson rhagweithiol a dyfeisgar.

Mae gweithrediad ffermio masnachol yng Ngholeg Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin, wedi'i ganolbwyntio'n bennaf (ond nid yn unig) ar Fferm Y Gelli Aur. Bydd y Cowmon yn cael hyfforddiant priodol i gefnogi Rheolwr y Fferm/Rheolwr y Fuches gyda rheolaeth o ddydd i ddydd y ddwy fuches laeth ac anifeiliaid cyfnewid sy'n cynrychioli cnewyllyn menter y fferm fasnachol yn Fferm Gelli Aur y Coleg. Mae'n hanfodol felly bod y Cowmon yn aelod annatod o dîm llwyddiannus sy'n cynnwys Rheolwr y Fferm a Rheolwr y Fuches. Wedi'i sefydlu ym 1997, mae Canolfan Arallgyfeirio Amaethyddol a Thechnoleg y Gelli Aur yn hanfodol wrth gefnogi y Gelli Aur fel "Canolfan Rhagoriaeth" mewn astudiaethau ar dir. Gyda'r gefnogaeth a'r hyfforddiant priodol, mae'n hanfodol bod y Cowmon yn gallu gweithio ar y lefel dechnegol uchaf tra'n cyfrannu at yr hyfforddiant a'r deilliannau lledaenu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Fferm.

Tra bod gan y Fferm ei thargedau a'i dangosyddion perfformiad clir ei hun, mae cyswllt annatod rhwng ei llwyddiant â'r Maes Cwricwlwm Astudiaethau ar Dir a chyflwyniad effeithiol rhaglenni hyfforddiant a datblygiad mewn Amaeth.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Cefnogi a chynorthwyo Rheolwr y Fferm/Rheolwr y Fuches wrth reoli'r fuches gan sicrhau bod y gofal am yr holl stoc o safon uchaf hwsmonaeth a lles;
  • Rhoddir cefnogaeth briodol i'r Cowmon i sicrhau eu bod wedi'u hyfforddi'n ddigonol:
- I fonitro a rheoli cloffni a goruchwylio rhaglenni tocio traed rheolaidd.
- I oruchwylio buchod yn lloia. Sicrhau bod cymorth yn cael ei roi pan fo angen a bod safonau hylendid yn uchel.
- I fonitro cyfrifiadau celloedd a mastitis clinigol a'u rheoli yn unol â hynny, gan weithio'n agos gyda'r milfeddyg.
- I sicrhau bod gwartheg yn cael eu godro yn ôl y polisi rheolaeth, i gynnwys:
Amlder
Glendid (Bactosan band A, Cyfrifiad Celloedd band 1 a chydymffurfio â rheoliadau hylendid llaeth)
- Ar y cyd â Rheolwr y Fferm/Rheolwr y Fuches, paratoi a gweithredu'r strategaeth fwydo gytunedig.
- I fonitro'r cynlluniau dogn cytunedig a chwblhau'r ffurflenni misol.
- I drafod a chytuno ar y polisi bridio a'r targedau gyda Rheolwr y Fferm/Rheolwr y Fuches.
  • Cefnogi Rheolwr y Fferm i weithredu'r polisi glaswelltir;
  • Trafod a gweithredu'r polisi magu da ifanc gyda Rheolwr y Fferm;
  • Monitro twf heffrod a'r ymddygiad gwasod ac addasu'r maeth lle bo'n briodol;
  • Ymgymryd â gwaith cynnal a chadw'r parlwr a'r fferm yn gyffredinol;
  • Cyflawni'r targedau ffisegol a rheolaeth a drafodwyd ac a gytunwyd arnynt eisoes gyda Rheolwr y Fferm/Rheolwr y Fuches;
  • Cyfrannu at fonitro perfformiad ffisegol ac ariannol gan sicrhau y cedwir yr holl gofnodion gorfodol priodol;
  • Cyfrannu at ddatblygiad a gweithrediad astudiaethau'n seiliedig ar y fuches laeth a thrafod y deilliannau gyda'r myfyrwyr;
  • Rheoli'r gwaith o storio a defnyddio elifion a sicrhau cydymffurfiad o fewn y Cod Arferion Da ar gyfer Amaethyddiaeth;
  • Sicrhau bod gweithdrefnau gweithredu'n adlewyrchu arfer da a'u bod yn gydnaws â rhaglenni hyfforddiant cyfredol;
  • Sicrhau bod yr Uned Laeth bob amser yn enghraifft neilltuol i ymwelwyr. Rhaid i bob agwedd ar ymddangosiad yr Uned fod yn barhaol drefnus;
  • Cydweithredu a chysylltu â staff y Gyfadran;
  • Cydweithredu a chysylltu â phartneriaid prosiect;
  • Rheoli amser a threfn gwaith er mwyn cyflawni'r targedau perfformio o fewn lwfans amser blynyddol a gytunwyd;
  • Bod â gwybodaeth gyfoes o arfer ffermio cyfredol, mynychu cyrsiau perthnasol a rhoi adborth i aelodau staff eraill;
  • Cyfathrebu'n rheolaidd â rheolwyr y fferm a chymryd rhan yn yr holl drafodaethau a phenderfyniadau'n ymwneud â pholisi sy'n effeithio ar broffidioldeb yr uned.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cymwysterau priodol mewn Amaethyddiaeth - Gradd/Gradd Sylfaen, Diploma Estynedig neu'n gweithio tuag at y cymwysterau hynny
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
Dymunol:
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein