MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £16,673 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Glanhawr Goruchwyliol - Ysgol Godre'r Berwyn

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £16,673 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwyneth Hughes ar 0776 699 0313 neu drwy e-bost: gwynethelizabethhughes2@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH , 13/03/2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
-
Dymunol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Hyfforddiant mewn gweithdrefnau glanhau

Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
Profiad perthnasolHanfodol
-
Dymunol
Profiad o goruchwylio staff

Profiad o weithio mewn swydd glanhau
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
-
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Goruchwylio staff glanhau ar y safle
• Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle'r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl Ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Offer
• Staff

Prif Ddyletswyddau.

• Mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd Tîm Arlwyaeth a Glanhau Ysgolion bod yn gyfrifol am archebu defnyddiau glanhau.
• Glanhau man diffiniedig o'r safle
• Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gofynion Iechyd a Diogelwch sy'n effeithio ar staff, a phobl eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld a' Sicrhau fod holl staff Glanhau yn dilyn arferion gwaith da ac y cedwi'r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisiau Cyngor Gwynedd.
• Goruchwylio staff glanhau ar y safle. Pennu dyletswyddau, trefniadau gwaith, hyfforddiant ac ardystio taflenni gwaith.
• Sicrhau fod pob aelod o staff glanhau y safle wedi derbyn hyfforddiant anwytho, Iechyd a Diogelwch cyn cychwyn gwaith.
• Cyfrifol am sicrhau fod pecynnau penodi megis ffurflen gais, prawf mudo, ffurflen DBS aelodau staff wedi ei cwblhau a'i dychwelyd i'r Awdurdod.
• Cyfrifol am reoli absenoldebau staff a cwblhau ffurflenni cofnodi absenoldebau salwch SA1 a ffurflen dychwelyd i'r gwaith SA2.
• Glanhau, golchi, brwsio, defnyddio sugnydd llwch.
• Gwagio biniau ysbwriel ac ail gylchu.
• Dwstio a sgleinio y rhannau penodol ac hefyd dodrefn a ffitiadau.
• Glanhau toiledau a mannau cawodydd a chyflenwi papur toiled a sebon.
• Bydd gofyniad i ddefnyddio, pan yn briodol ac angenrheidiol, gyfarpar pwerddreif.
• Gall y dyletswyddau amrywio o dymor i dymor ac ar adegau pan fydd yr ysgol ar gau.
• Bydd hefyd, pan fo'r galwad, reidrwydd i chwi symud i rannau eraill o'r ysgol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-

Mae'r swydd ddisgrifiad uchod yn disgrifio pwrpas pennaf a phrif elfennau'r swydd. Mae'n ddarlun o natur a phrif ddyletswyddau'r swydd fel mae'n bodoli yn bresennol, ond ni fwriedir iddo fod yn ddarlun holl-gynhwysfawr ac nid yw yn rhan o'r cytundeb cyflogaeth.

-

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi