MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mawrth, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Glanhawr Ysgol (Generig) Ysgol Buttington Trewern CP

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr

Glanhawr Ysgol (Generig) Ysgol Buttington Trewern CP
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Glanhau ardaloedd penodedig yn yr ysgol yn unol â safonau'r ysgol/ yr awdurdod. Mae'r gwaith yn cael ei wneud dan gyfarwyddyd y gofalwr / goruchwyliwr glanhau.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â'r Ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Nid oes gan y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol o gwbl am oruchwylio staff eraill (neu gyfrifoldeb bach os felly) er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith
neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Nid oes gan y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol o gwbl am adnoddau ariannol (neu gyfrifoldeb bach os felly) heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb uniongyrchol am adnoddau ffisegol, mewn perthynas â glanhau adeiladau.

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon