MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: ISR L6 – L12
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth ( Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: ISR L6 – L12
Pennaeth ( Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain)Swydd-ddisgrifiad
CYNGOR SIR POWYS
Gofynnol ar gyfer Medi 2025
Pennaeth
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain
Nifer ar y Gofrestr - 44 o ddisgyblion
Swydd 3 diwrnod wythnos
ISR L6 - L12
Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanfechain yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, arloesol ac ymroddedig, sydd â lefel uchel o hunangymhelliant, i arwain cyfle addysg unigryw ym Mhowys. Mae'r Llywodraethwyr yn cynnig swydd pennaeth tri diwrnod yr wythnos.
Prif ffocws y swydd fydd arweinyddiaeth a rheolaeth strategol o fewn yr ysgol gyda hanner diwrnod yr wythnos o gyfrifoldeb addysgu i ddechrau.
Amlygodd ein harolygiad Estyn diweddar (Gorffennaf 2024) ein hysgol fel "cymuned ddysgu hapus, gefnogol ac ysbrydoledig "lle mae'r disgyblion yn "falch o'u hysgol ac yn gwerthfawrogi'r gofal a'r anogaeth a gânt." Mae hyn yn sail i lawer o'r hyn a wnawn. Nododd Estyn hefyd ein "cwricwlwm diddorol a chytbwys" sy'n adlewyrchu anghenion ein disgyblion yn ogystal â gwerthoedd a chyd-destun ein hysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bennaeth a fydd yn adeiladu ar hyn ochr yn ochr â'r tîm cydwybodol ac ymroddedig o staff i barhau i gyflawni'r gorau posibl i'r disgyblion a chymuned yr ysgol.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig i chi:
- Staff brwdfrydig ac ymroddedig
- Corff Llywodraethu cefnogol
- Plant sy'n cael eu gwerthfawrogi, sy'n hapus ac yn awyddus i ddysgu
- Amgylchedd gwaith a dysgu deniadol a dymunol
Mae'r cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:
- darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol o fewn yr ysgol
- sicrhau safonau uchel a chysondeb darpariaeth addysgol;
- mentora datblygiad proffesiynol staff;
- meithrin a datblygu partneriaethau agos gyda disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr, cymunedau ysgol, busnesau lleol ac ysgolion uwchradd lleol.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus:
- gyda NPQH, Bennaeth Cyfredol, Pennaeth sy'n Dychwelyd neu yn gwneud cais am y rhaglen NPQH,
- bod yn gwbl gyfarwydd â'r cwricwlwm newydd i Gymru;
- meddu ar brofiad o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol;
- disgwyliadau uchel;
- sgiliau rhyngbersonol a chydweithredol effeithiol;
- tystiolaeth o godi cyflawniad;
- y gallu i fod yn egnïol, brwdfrydig, creadigol ac ysbrydoledig;
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus;
- ymrwymiad i ddatblygu'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Croesewir ymweliadau â'r ysgolion drwy apwyntiad gyda'r ysgol rhwng y 4ydd a'r 18fed o Fawrth. Cysylltwch ag Emma Williams ar 01691 828537 i drefnu .
Dyddiad cau: 20 Mawrth 2025
Rhagwelir y bydd rhestr fer a chyfweliadau'n digwydd fel a ganlyn:
Rhestr fer: 24 Mawrth 2025
Cyfweliadau: 2 Ebrill 2025
Mae'n bosibl y bydd y dyddiadau hyn yn newid.
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u cwblhau i'r Gwasanaethau Cyflogaeth, Adnoddau Dynol, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys LD1 5LG erbyn
Dydd Iau 20 Mawrth 2025, heb fod yn hwyrach na 5pm.
Mae gofyn bod â Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).