MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: ISR: 9-15
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: ISR: 9-15
Pennaeth (Ysgol Maesyrhandir)Swydd-ddisgrifiad
PENNAETH
ISR: 9-15
Nifer ar y Gofrestr: 101
Swydd barhaol lawn-amser - yn ofynnol ar gyfer 1 Medi 2025
Mae Ysgol Gynradd Maesyrhandir yn ysgol gynhwysol, ofalgar gyda lles pob disgybl yn ganolog iddi.
Rydym wedi ein lleoli ar gyrion y Drenewydd sy'n gwasanaethu ein cymunedau lleol yn llwyddiannus.
Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Pennaeth ysbrydoledig a brwdfrydig sydd:
- yn arweinydd cwbl gydweithredol sydd â thystiolaeth o arbenigedd wrth godi safonau a darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol
- wedi ymrwymo i gyflwyno dull seiliedig ar anogaeth o les disgyblion
- yn effeithiol wrth ddatblygu ac ysgogi staff ar bob lefel ac yn gallu hyrwyddo'r ysgol fel sefydliad sy'n dysgu
- yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol sydd â thystiolaeth o ymarferiad llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth
- â gweledigaeth glir i ddatblygu'r ysgol ymhellach tra'n cynnal ethos cynhwysol ein hysgol
- â phrofiad o reolaeth ariannol effeithiol
- yn meddu ar brofiad a gwybodaeth gadarn o reoli ADY ac yn cefnogi anghenion amrywiol disgyblion ar draws yr ysgol
- meddu ar ddyheadau uchel i'n disgyblion gan hyrwyddo a dathlu eu cyflawniadau
- yn annog disgyblion i arwain eu dysgu eu hunain a sicrhau bod llais y disgybl yn gwneud cyfraniad cryf i gyfeiriad strategol yr ysgol
- yn arwain ac yn ysgogi disgyblion, staff a llywodraethwyr i greu diwylliant dysgu effeithiol ac yn parhau i ddatblygu'r Cwricwlwm i Gymru
- yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel, gyda'n plant, rhieni, llywodraethwyr a staff, a gall greu partneriaeth agos rhwng yr ysgol a'r gymuned ehangach
- yn deall pwysigrwydd cefnogi dysgwyr bregus a'u teuluoedd
- yn agored i fentrau newydd, ymchwil, a ffyrdd creadigol o weithio
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y cymhwyster CPCP. Bydd y llywodraethwyr yn ystyried ymgeiswyr sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd yn y rhaglen CPCP, ar gyfer swydd pennaeth dros dro.
Fel ysgol gallwn gynnig ymrwymiad llywodraethwyr, staff a disgyblion i chi i'ch cefnogi i gynnal llwyddiant Ysgol Gynradd Maesyrhandir.
Fe'ch anogir i ymweld â'n hysgol. Cysylltwch â'r ysgol drwy e-bost i drefnu ymweliad. office@maesyrhandir.powys.sch.uk
Dyddiad cau: 21/3/25
Rhagwelir y bydd rhestr fer a chyfweliadau'n digwydd fel a ganlyn
(mae posibilrwydd y bydd y dyddiadau'n newid):
Rhestr fer: 27/3/25
Cyfweliadau: 8-9/4/25
Mae gofyn bod â Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).