MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/awes Cynradd (cynllun pontio Llywodraeth Cymru) - Ysgol Y Creuddyn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Ysgol Y CreuddynFfordd Derwen,
Bae Penrhyn,
Llandudno,
LL30 3LB
Rhif Ffôn: 01492 544 344
Rhif Ffacs: 01492 547 594
E-bost: swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk
Gwefan: http://moodle.creuddyn.conwy.sch.uk
Yn eisiau erbyn Medi 2025
Athro / Athrawes Cynradd (cynllun pontio Llywodraeth Cymru)
Graddfa Cyflog Athrawon
Contract dros dro hyd at 31/08/2026
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Dyffryn Conwy am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o'r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Mae Ysgol y Creuddyn yn ysgol ddynodedig Gymraeg sydd wedi ei lleoli ym Mae Penrhyn, ger Llandudno. Ar hyn o bryd mae ychydig dros 700 o ddysgwyr yn yr ysgol, gan gynnwys 93 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Y mae i'r ysgol naws ofalgar a theuluol ac ethos gynhwysol. Rydym yn ymfalchïo yn ein tîm brwdfrydig a gweithgar o staff sydd yn angerddol am gynnig y ddarpariaeth, y gefnogaeth a'r profiadau gorau i'n dysgwyr o ran eu Dawn, eu Dysg a'u Daioni.
- Cynllunio gwersi
- Asesu, marcio ac adborth
- Rheolaeth ddosbarth
- Datblygu dycnwch
- Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Proses ymgeisio :
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais yma gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 2ail Mawrth 2025.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng 17eg-28ain Mawrth 2025.
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg neu os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth - Gwenno Davies ar swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma.
This form is also available in English