MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo - St Mary's Overton

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cynorthwyydd Arlwyo Parhaol - St Mary's Overton

G02 £23,656
£12.26 yr awr

12.5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig

Rydym am benodi cynorthwyydd arlwyo parhaol i gynorthwyo â dyletswyddau yn y gegin a'r ystafell fwyta yn yr ysgol uchod.

Prif Ddyletswyddau i gynnwys :-

1 - Paratoi diodydd a bwyd sylfaenol e.e. paratoi llysiau, eitemau salad, a ffrwythau ac ati.
2 - Coginio syml e.e. paratoi byrbrydau
3 - Dyletswyddau cyffredinol y gegin a'r ystafell fwyta e.e. golchi'r llestri, symud byrddau a chadeiriau'r ystafell fwyta, a chlirio'r ystafell fwyta.
4 - Glanhau'r gegin, yr offer, a chyffiniau'r gegin.
5 - Gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n cyfateb â natur gyffredinol a graddfa'r swydd yn ôl y Cogydd ar ddyletswydd.
6 - Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol

Cewch lenwi ffurflen gais ar-lein neu ofyn am becyn cais oddi wrth: Susan Thomas, Education and early inclusion Crown Buildings, 31 Chester Street, Wrexham LL13 8BG 01978 295692

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.