MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: MPS \/ UPS + SEN
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro – Arweinydd MDPH Mathemateg - Torfaen PRU (Pupil Referral Unit)

Torfaen Local Authority

Cyflog: MPS \/ UPS + SEN

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen yn darparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael anawsterau emosiynol, cymdeithasol a/neu ymddygiadol, y rheiny sydd wedi'u gwahardd yn barhaol neu'r rheiny sy'n aros am symudiad a reolir, neu'r rheiny y mae eu hanghenion emosiynol neu feddygol yn eu hatal dros dro rhag mynychu'r ysgol.

Nod Uned Cyfeirio Disgyblion Torfaen yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hawliau trwy gydol eu 'ffenestri trawma' perthnasol. Rydyn ni'n cadw cysylltiadau da gydag ysgolion prif ffrwd, a'n nod yw cynnwys disgyblion yn ôl mewn lleoliadau prif ffrwd neu leoliadau sy'n fwy priodol, o fewn amserlenni realistig lle bynnag y bo modd.

Rydyn ni'n awyddus i benodi athro profiadol (llawn-amser) sy'n hyderus i gyflwyno Mathemateg a Saesneg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth dda am y Cwricwlwm i Gymru a bydd yn barod i gydweithio â chydweithwyr ar draws y rhanbarth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro profiadol a chreadigol sydd â phrofiad blaenorol o gyflwyno amrywiaeth o feysydd pwnc. Bydd ganddynt ymarfer dosbarth rhagorol ac ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus.

Mae addysgu'n llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth a phrofiad o weithio ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol, hefyd yn ddymunol. Rydyn ni'n chwilio am ymarferwyr Cynradd neu Uwchradd profiadol sy'n hyderus i gyflwyno Mathemateg hyd at lefel TGAU. Byddai secondiad yn cael ei ystyried ar gyfer yr ymgeisydd iawn, gyda chytundeb gan eich pennaeth presennol.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Sarah Pugh (Pennaeth) pughs301@hwbcymru.net neu Rhyanon Griffiths (Dirprwy Bennaeth) griffithsr337@hwbcymru.net

Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais trwy wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Dyddiad Cau: Dydd Llun 17 Mawrth 2025

Llunio rhestr fer: Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025

Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 24 Mawrth 2025