MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Gynradd Aber-miwl)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Gynradd Aber-miwl)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Gweithio o dan oruchwyliaeth gyffredinol yr athro cyfrifol, cynorthwyo a chefnogi addysgu a dysgu, gweithio gydag unigolion neu grwpiau o ddisgyblion ag anghenion arbennig a darparu ar gyfer gofal, diogelwch a lles cyffredinol y disgyblion.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio ar les unigolion neu grwpiau trwy ddarparu gofal neu les priodol ar gyfer y rheini sy'n ddibynnol ar y swydd ar gyfer anghenion sylfaenol a thrwy helpu gydag asesiad.
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill. Gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol. Gall ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb am adnoddau ffisegol, drwy drin a defnyddio offer yn ofalus, paratoi deunyddiau/ adnoddau addysgu a gofalu amdanynt, cadw cofnodion ac arsylwadau diogel a chywir.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS