MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £27,269 i £28,624 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.13 i £ 14.83 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Maesydderwen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £27,269 i £28,624 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.13 i £ 14.83 yr awr

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Maesydderwen)
Swydd-ddisgrifiad
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Darparu goruchwyliaeth gyflenwi i'r dosbarth cyfan pan fydd yr athro cyfrifol ar absenoldeb tymor byr (gweler * isod).
Mae goruchwyliaeth gyflenwi'n digwydd pan fydd disgyblion yn gwneud dysgu hunangyfeiriedig, os yw'r gwaith wedi'i osod a bod y disgyblion yn gallu gweithio'n annibynnol a pharhau â'r dasg. Ni fydd addysgu gweithgar yn digwydd o gwbl yn ystod goruchwyliaeth gyflenwi. (*Mae rhywun nad yw'n athro cymwysedig, h.y. "goruchwyliwr cyflenwi", yn gallu
cyflenwi am absenoldebau tymor byr. Efallai na fydd absenoldebau felly wedi'u cynllunio ymlaen llaw, e.e. absenoldeb tymor byr oherwydd salwch neu absenoldeb brys o fath arall, neu wedi'u cynllunio ymlaen llaw, e.e. mynychu HMS neu ddatblygiad
proffesiynol arall neu apwyntiad meddygol.)
Prif Gyfrifoldebau:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio'n sylweddol ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb am adnoddau ffisegol gan gynnwys cadw cofnodion a sicrhau bod offer (e.e. cyfrifiadur / deunyddiau addysgu / adnoddau) yn cael eu trin yn briodol a'u defnyddio'n ofalus yn
ystod goruchwyliaeth gyflenwi.