MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Clog GO4 gwirioneddol pro rata £22,366-£23,465 y flwyddyn\n
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Lles & Ymddygiad - Ysgol John Bright
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Clog GO4 gwirioneddol pro rata £22,366-£23,465 y flwyddyn\n
Ysgol John BrightSWYDDOG LLES AC YMDDYGIAD
Clog GO4 gwirioneddol pro rata £22,366-£23,465 y flwyddyn
Cyfwerth â £25,992-£27,269 llawn-amser
Tymor ysgol a 5 diwrnod - 37 awr yr wythnos
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer unigolyn gweithgar, hyblyg ac angerddol gyda sgiliau pobl rhagorol a lefel uchel o empathi. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn ein tîm bugeiliol eithriadol mewn amgylchedd gwaith cadarnhaol a deinamig.
Bydd gennych ddisgwyliadau uchel, gallu i ysbrydoli, chwerthin a mwynhau heriau'r rôl. Byddwch yn chwaraewr tîm; byddwch yn mynd yr ail filltir i gefnogi ein myfyrwyr.
BYDDWCH :
- Yn hunan-ysgogol,
- Â phrofiad o ddelio gyda materion bugeiliol pobl ifanc,
- Â sgiliau rhyng-bersonol rhagorol ac ymagwedd gynnes, ofalgar a hyblyg,
- Bydd angen i chi hefyd feddu ar sgiliau rhifedd, llythrennedd a TG da.
RYDYM YN CYNNIG :
- Cyfleoedd datblygu gyrfa rhagorol a mynediad i raglen gynhwysfawr o ddysgu a datblygiad proffesiynol
- Y cyfle i fod yn feiddgar ac arloesol yn eich arweinyddiaeth
- Ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer myfyrwyr a staff
- Ffocws diflino ar les myfyrwyr a staff.
- Amgylchedd gwaith proffesiynol ysgogol a chefnogol
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol a dilyniant ar gyfer yr holl staff
- Cyfleusterau o'r radd flaenaf mewn adeilad, ac ar safle, modern a deniadol
- Ethos 'ffenestr ar y byd' sy'n cyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr.
Y dyddiad cau a'r terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw Dydd Iau 27ain Chwefror 2025
Cyfweliadau w/d 10fed Mawrth 2025
I ddechrau Pasg 2025
Mae Ysgol John Bright wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol bod pob aelod o staff yn rhannu'r ymrwymiad hwn. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau cyflogaeth. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.
This form is also available in English