MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Treferthyr, Criccieth,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £7,031 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Mawrth, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Swyddog Cefnogi Ysgol Lefel 2 (12 awr) (Dros Dro) Ysgol Treferthyr, Cricieth
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £7,031 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
SWYDDOG CEFNOGI YSGOL LEFEL 2 (12 AWR) (DROS DRO)
YSGOL TREFERTHYR, CRICCIETH
(Ysgol Gynradd 3 - 11 oed: 119 o ddisgyblion)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3, pwyntiau 5 - 6 (sef £6,922 - £7,031) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Yn eisiau: 28 Ebrill 2025
Swydd Dros dro yw hon hyd at Ebrill 2026.
Mae'r Llywodraethwyr yn chwilio am berson i gynorthwyo gyda gwaith gweinyddol yn yr ysgol.
Oriau Gwaith: 12 awr yr wythnos (yn ddelfrydol 4 bore, ond mae hyblygrwydd)
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).
Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol o safon uchel.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mr Dylan Roberts (Rhif Ffôn 01766 522300) e-bost: Dylan.Roberts@treferthyr.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Elen Jones, Swyddog Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704047 e-bost: elenjones2@gwynedd.llyw.cymru
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr ysgol.
DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD LLUN, 3 MAWRTH 2025.
(This is an advertisement for the post of a Temporary School Support Officer Level 2 (12 hours) at Ysgol Treferthyr, Criccieth for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Manylion Person
Profiad
• Gwaith clerigol/gweinyddol/ariannol cyffredinol.
Cymwysterau
• NVQ 2 neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol.
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.
Gwybodaeth/ Sgiliau
• Gwybodaeth briodol o gymorth cyntaf.
• Defnydd effeithiol o becynnau TGaCh.
• Defnydd o offer/adnoddau perthnasol.
• Sgiliau bysellfwrdd da.
• Gwybodaeth o bolisïau /codau ymarfer priodol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, deall swyddogaethau a chyfrifoldebau ysgol a'ch safle eich hun o fewn y rhain.
• Y gallu i adnabod anghenion hyfforddiant a datblygiad eich hun a chydweithredu i ymateb i'r anghenion hyn.
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS SWYDD
• Darparu cefnogaeth gyffredinol weinyddol/ariannol i'r ysgol dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff uwch.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Trefniadaeth
• Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa, ateb ymholiadau ffôn a wyneb yn wyneb ac arwyddo ymwelwyr i mewn.
• Cynorthwyo gyda chymorth cyntaf /dyletswyddau lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sy'n sâl, cysylltu â rhieni/staff, ayyb.
• Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer teithiau ysgol, digwyddiadau, ayyb.
Gweinyddu
• Darparu cefnogaeth glercio/weinyddol gyffredinol, e.e. llungopïo, ffeilio, ffacsio, cwblhau ffurflenni safonol, ymateb i ohebiaeth arferol.
• Cynnal cofnodion /systemau gwybodaeth rheolaeth, e.e. SIMS.
• Cynhyrchu rhestrau/gwybodaeth/data fel y bo'n ofynnol, e.e. data disgyblion (STAR).
• Ymgymryd â theipio a phrosesu geiriau a thasgau TG-seiliedig eraill.
• Cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd.
• Trefnu a danfon post.
• Ymgymryd â gweithdrefnau arferol gosod adeiladau'r ysgol a defnydd eraill o adeilad yr ysgol.
Adnoddau
• Gweithredu offer perthnasol/ pecynnau TG a Ch (e.e. Word, Excel, basdata, taenlenni, rhyngrwyd).
• Cynnal stoc a chyflenwadau, catalogio a dosbarthu fel y bo'n ofynnol.
• Gweithredu gwerthiannau gwisg a gwerthiannau eraill o fewn yr ysgol.
• Darparu cyngor ac arweiniad cyffredinol i staff, disgyblion ac eraill.
• Ymgymryd â gweinyddu ariannol cyffredinol, e.e. prosesu archebion cyflenwadau, casglu a chynnal llechres ysgol.
Cyfrifoldebau
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau a chydymffurfio â hwy mewn perthynas ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cydgyfrinachedd a gwarchod data, gan adrodd ar bob pryder i'r pennaeth.
• Bod yn ymwybodol o wahaniaeth a'i gefnogi a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaeth pobl broffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol fel bo'r gofyn
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad fel bo'r gofyn.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi