MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Generig) (Ysgol Calon Cymru)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
Clerc / Gweinyddwr - Lefel 3 (Generig) (Ysgol Calon Cymru)Swydd-ddisgrifiad
Clerigol / Gweinyddol
Ysgol Calon Cymru
15 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn
Cytundeb cyfnod penodol o 1 flwyddyn
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol 11-18 oed yng nghanol Powys gyda thua 850 o ddisgyblion a chweched dosbarth bywiog - https://www.ysgolcalon.cymru
Rydym yn falch o'n disgyblion ac yn disgwyl iddynt weithio'n galed i gyflawni ac yna rhagori ar eu disgwyliadau. Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Clerigol brwdfrydig llawn chymhelliant sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i addysg a phrofiadau dysgu ein myfyrwyr. Rydym yn ceisio penodi Gweinyddwr Clerigol rhagorol i weithio yn swyddfa brysur yr ysgol.
TASGAU, DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU NODWEDDIADOL Y RÔL:
· Cynhyrchu gohebiaeth gyffredin ac anghyffredin
· Cynhyrchu a diweddaru dogfennau'r ysgol
· Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill
· Cyfrannu at gynllunio, datblygu a threfnu gwasanaethau cymorth, systemau, gweithdrefnau a pholisïau
· Rheoli gohebiaeth a gwybodaeth gyfrinachol a sensitif
· Rheoli cofnodion llaw a chyfrifiadurol a systemau gwybodaeth
· Dadansoddi a gwerthuso data/gwybodaeth a chynhyrchu adroddiadau/gwybodaeth/data yn ôl yr angen
· Cynhyrchu a chyflwyno datganiadau i'r Awdurdod Lleol a chyrff allanol
· Darparu cymorth personol, gweinyddol a sefydliadol i'r SMT a GB
· Monitro a rheoli adnoddau o fewn cyllideb y cytunwyd arni a chynnal archwiliadau yn ôl yr angen
· Cynorthwyo gyda chaffael a noddi
· Cynorthwyo gyda marchnata a hyrwyddo'r ysgol
· Rheoli'r gwaith o weinyddu cyfleusterau gan gynnwys defnyddio eiddo'r ysgol
· Cyfathrebu'n briodol gyda rhieni, gofalwyr, asiantaethau allanol a chydweithwyr yn ogystal â disgyblion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd yn weithgar, yn hyblyg ac yn gallu gwneud cyfraniad gweithredol i fywyd yr
ysgol. Mae'n bwysig bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn fodel rôl gadarnhaol i ddisgyblion ac felly bydd angen iddo fod yn amyneddgar, yn empathetig gan feithrin disgyblion a bydd ganddo synnwyr digrifwch da.
Dyddiad Cau: 2 Mawrth 2025
Cyfweliadau I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn 28 Ebrill 2025
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Nia Lydiate, Rheolwr Busnes ar office@caloncymru.powys.sch.uk