MANYLION
- Lleoliad: Cardiff , Cardiff, CF10 3NQ
- Testun: Athro
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Digyflog
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Mawrth, 2025 12:59 y.b
This job application date has now expired.
Mae nifer o swyddi ar gael ar gyfer Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu mewn ysgol uwchradd am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Mae’r cynllun yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â darparwr addysg gychwynnol athrawon (AGA) lleol i chi byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
• Cynllunio gwersi
• Asesu, marcio ac adborth
• Rheolaeth ddosbarth
• Datblygu dycnwch
• Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen addysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Lleoliadau:
Mae’r cynllun hwn ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng 17-28 Mawrth 2025.
Bydd pob unigolyn sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn derbyn cyflog ar y gyfradd briodol ar gyfer y flwyddyn ysgol. Caiff yr unigolion eu contractio a’u talu gan yr ysgolion/awdurdodau lleol.