MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/ Athrawes - Trochi'r Gymraeg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swydd Athro / Athrawes Trochi Hwyr
Llawn amser (Prif raddfa)
I gychwyn ar yr 2il o Fehefin 2025.
Cytundeb tan Awst 31ain, 2026 i gychwyn.
Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau ar gyfer secondiad. Cysylltwch i drafod ymhellach.
Mae'r Gwasanaeth Cefnogi Hwyrddyfodiaid I'r Gymraeg yn cefnogi ysgolion yr awdurdod i ddatblygu hyder a sgiliau iaith dysgwyr sy'n trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym yn cefnogi plant wrth gynnig gwasanaeth trochi ac allgymorth Cymraeg dwys mewn ysgolion.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes egnïol, brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno efo'r tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi datblygiad y ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid a chaffaeliad iaith ac yn gweithio yn agos gydag aelodau eraill ein tim. Bydd y swydd yn cefnogi dysgwyr yn y cyfnod uwchradd yn bennaf ond yn gweithio gyda'r uned cynradd a chyda dysgwyr blwyddyn 5 a 6 sydd yn bwriadu trosglwyddo I'r ddarpariaeth uwchradd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- greadigol a hyderus ac yn gwbl ymroddedig i ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg.
- gyfrifol am ddatblygu rhaglen drochi a chefnogi caffaeliad iaith arloesol a blaengar, fydd yn defnyddio addysgeg ac athroniaeth y Cwricwlwm i Gymru a'r fframwaith llafaredd newydd o fewn cyd-destun themâu'r cynllun.
- sicrhau bod pob dysgwr, beth bynnag fo'u gallu neu gefndir, yn hapus ac yn llwyddiannus yn eu dysgu.
- gosod lles a diogelwch ein plant uwchlaw popeth arall.
- cynllunio a pharatoi profiadau ysgogol a chreadigol yn ofalus ac yn fanwl.
- arddangos agwedd gadarnhaol a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm gan ddefnyddio dulliau gweithio arloesol.
- cyfathrebu'n glir a hyderus gyda sgiliau Cymraeg rhagorol.
- ymwybodol o dechnegau trochi ac addysgeg trochi effeithiol.
- ymwybodol o ddisgwyliadau safon iaith gyntaf ar hyd y camau cynnydd.
Am fanylion pellach neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag Eleri Vaughan Roberts, Rheolwr Tîm Gwasanaeth Cefnogi Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg.
Ebost: trochi@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
DYDDIAD CAU: Mawrth 14eg