MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Neuadd Brynllywarch)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Neuadd Brynllywarch)
Swydd-ddisgrifiad
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 07/03/2025

Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2
(Arbennig)
Contract: Parhaol
Dyddiad Dechrau: I'w gytuno - o fis Mai 2025 ymlaen
Cyflog: Graddfa 5 - (pt7 - pt9)
Oriau: 32.5 awr yr wythnos (tymor ysgol yn unig)
Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi cynorthwyydd addysgu llawn amser i ymuno â'n tîm deinamig. Byddwch yn berson llawn cymhelliant, ymroddedig a brwdfrydig sy'n mwynhau gweithio
fel rhan o dîm i gefnogi myfyrwyr ag ymddygiad heriol. Mae cyfle hefyd i gynorthwyo gyda'r trefniadau teithio ar gyfer ein disgyblion ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol a gallwch hawlio am yr oriau a weithir yn ychwanegol at eich cyflog.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod â: -
• Phrofiad o weithio gyda myfyrwyr ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
• Y gallu i weithio gyda grwpiau o 8 i 10 o fyfyrwyr yn ogystal ag un i un.
• Y gallu i weithio a chefnogi disgyblion ag CSA.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Cyngor Sir Powys a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), hefyd bydd angen dau eirda boddhaol arnom cyn ymgymryd â'r swydd. Ar gyfer ffurflenni cais a swydd ddisgrifiad e-bostiwch: jobapplications@powys.gov.uk
neu ymgeisio ar-lein yn www.powys.gov.uk
Am drafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mrs Suzanne Williams, Rheolwr Busnes ar 01686 670276