MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Chwefror, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Safle Cyn -Ysgol (Dechrau'n Deg)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr

Cynorthwyydd Safle Cyn -Ysgol (Dechrau'n Deg)
Swydd-ddisgrifiad
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Yn cynorthwyo arweinydd y safle wrth gynllunio, adolygu a chyflenwi profiadau chwarae o ansawdd da / cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ac wrth gefnogi gofal, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol ac ymddygiadol y disgyblion. Yn cyfrannu at ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y safle lle gall y plant a'r gofalwyr deimlo bod rhywun yn eu gwerthfawrogi, a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol ar gyfer amrywiaeth o
weithgareddau. Mae'r swydd yn cael cyfarwyddyd gan Arweinydd y Safle neu 'unigolyn cyfrifol' neu aelod arall o staff
uwch, ac mae'n atebol i'r sawl hwn.
Prif Gyfrifoldebau:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).

Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl sydd ar brofiad gwaith neu dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin offer a'i ddefnyddio'n ofalus (e.e. cyfrifiadur) a gosod adnoddau yn ôl cyfarwyddyd arweinydd y safle.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS