MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro Gwyddoniaeth (Arbenigwr Cemeg) - Ysgol Bro Dinefwr
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 1321
Sefydliad: Ysgolion
Adran: Ysgol Bro Dinefwr
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Llandeilo
Gradd: Athrawon Ysgol
Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £24.11 - £29.30
Oriau Contract: 32.5
Dewch i ymuno â'n tîm
Athro Gwyddoniaeth (Arbenigwr Cemeg)
Math o gontract - Parhaol
Cyflog - PRC/URC
Oriau - Llawn amser
Dyddiad cychwyn - 1af Medi 2025
Ydych chi'n angerddol am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr? Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Athro Gwyddoniaeth deinamig ac ymroddgar gyda'r arbenigedd mewn Cemeg i ymuno â'n tîm profiadol ac ymroddgar. Mae'r swydd hon yn gofyn (yn ddelfrydol) am y gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau amgylchedd dysgu cynhwysol ac ymgysylltuol i bob myfyriwr.
Mae Ysgol Bro Dinefwr yn ysgol categori Dwyieithog (Math B) wedi'i lleoli wrth ymyl tref Llandeilo, ar lannau'r afon Tywi a yng nghysgod Castell Dinefwr. Mae'n ysgol o 1089 o ddisgyblion sy'n darparu addysg i ddisgyblion o flwyddyn 7 - 13 yn ogystal ag uned Awtistiaeth arbenigol i 42 o ddisgyblion. Darperir addysg i ddisgyblion mewn lleoliad gwledig ac ar safle newydd sy'n cynnwys adnoddau dysgu rhagorol. Rydym yn falch iawn o fedru cynnig addysg arloesol gan ddefnyddio ein canolfan Addysg Awyr Agored 'Natur', sy'n ardal o tua cyfer a hanner o ardd, llwyfan awyr agored, twnelai poly, llyn, a llety i'n Geifr, ieir a hwyaid. Ein nod yw creu amgylchedd o gyflawniad a chynhwysiant i bob aelod o'n cymuned ar mwyn iddynt esgyn ar adain dysg.
Rydym yn awyddus i benodi athro sy'n medru datblygu a darparu cynlluniau gwersi diddorol sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ac yn addas i arddulliau dysgu amrywiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dulliau dysgu arloesol i feithrin chwilfrydedd a meddwl beirniadol ymhlith myfyrwyr gan ddarparu adborth adeiladol a chymorth i fyfyrwyr i wella eu dealltwriaeth a'u meistroli o gysyniadau gwyddonol, a'u herio i ddysgu mwy am wyddoniaeth.
Fel adran blaengar bydd angen cydweithio gyda'r tîm i greu cyfleoedd dysgu rhyngddisgyblaethol gyda ffocws benodol ar ddatblygu cwricwlwm awyr agored i ddisgyblion blynyddoedd 7-9. Bydd galw ar yr ymgeisydd llwyddiannus i gyfrannu at gwricwlwm TGAU a Lefel A, gan baratoi disgyblion i gwrdd a'r her o wynebu arholiadau allanol a chyrraedd safonau uchel o gyrhaeddiad. Mae gan Ysgol Bro Dinefwr hanes o gynnal safonau cyrhaeddiad uchel ar draws y continwwm gan sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd Baglor mewn Gwyddoniaeth, gydag arbenigedd yn y maes Cemeg.Yn ychwanegol i hyn dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannusstatws Athro Cymwysedig (QTS) a phrofiad o ddysgu Gwyddoniaeth ar lefel uwchradd a Cemeg hyd at safon Lefel A.
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i'r staff sy'n cynnwys rhaglen ddatblygiad personol eang a chynhwysfawr, cyfleodd i gyd-weithio yn agos gyda chymheiriaid o fewn a thu hwnt i faes dysgu Gwyddoniaeth a chefnogaeth adrannol i rannu adnoddau dysgu a datblygu cynlluniau newydd. Ymfalchïwn wrth gynnig amgylchedd gefnogol a ddatblygol gydag ethos o rannu arferion llwyddiannus er budd yr holl gymuned.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu â'r Pennaeth Mr Eirian Davies am drafodaeth anffurfiol (Ffôn 01558 824800) neu drwy e-bost: eirian.davies@brodinefwr.org.uk .
Dyddiad cau: 18eg Chwefror 2025 am 23:55
Cyfweliad, wythnos sy'n cychwyn: 3ydd Mawrth 2025
Dyddiad Cychwyn: 1af Medi 2025
Disgrifiad Swydd: 018706.pdf - 224KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 18/03/2025, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.