MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Chwefror, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Safle Cyn-Ysgol (Ysgol Dôlafon)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr

Cynorthwyydd Safle Cyn-Ysgol (Ysgol Dôlafon)
Swydd-ddisgrifiad
Crynodeb
Yn cynorthwyo arweinydd y safle wrth gynllunio, adolygu a chyflenwi cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ac wrth gefnogi gofal, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol ac ymddygiadol y
disgyblion. Yn cyfrannu at ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y safle lle gall y plant a'r gofalwyr deimlo bod rhywun yn eu gwerthfawrogi, a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau.
Mae'r swydd yn cael cyfarwyddyd gan Arweinydd y Safle neu 'unigolyn cyfrifol' neu aelod arall o staff uwch, ac mae'n atebol i'r sawl hwn.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
1. Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
2. Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/tywys cyflogeion newydd, pobl sydd ar brofiad gwaith neu dan hyfforddiant.
3. Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
4. Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin offer a'i ddefnyddio'n ofalus (e.e.
cyfrifiadur) a gosod adnoddau yn ôl cyfarwyddyd arweinydd y safle.
5. Cefnogi'r cwricwlwm:
• Cefnogi dysgu'r plant fel y cyfarwyddir, yn unol ag egwyddorion arfer da ac fel y diffinnir gan Fframwaith y Cyfnod Sylfaen, i feithrin annibyniaeth a hunan-barch
• Gosod esiampl o ddefnyddio iaith yn dda i gefnogi pob maes dysgu
• Trafod a rhyngweithio â'r plant gan ddefnyddio iaith briodol
• Annog sgiliau meddwl cynnar a chynnwys y plant yn eu dysgu eu hunain
6. Cefnogi'r plant:
• Rhoi cymorth i'r plant fel y cyfarwyddir gan arweinydd y safle - gallai hyn gynnwys darllen stori neu helpu gydag anawsterau corfforol wrth annog annibyniaeth (e.e. gyda glendid personol, gwisgo esgidiau etc).
• Nodi patrymau ymddygiad annodweddiadol ymhlith y plant a rhoi gwybod i arweinydd y safle am y rhain
• Cefnogi'r plant i gael mynediad at gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen drwy ryngweithio gan ddefnyddio iaith briodol (gan gynnwys mathau eraill o gyfathrebu) a chyda'r plant ieuengach, estyn dysgu sy'n seiliedig ar chwarae yn yr ystafell ddosbarth dan do ac awyr agored
• Cynorthwyo i oruchwylio'r plant, er enghraifft wrth iddynt gyrraedd/gadael
• Rhoi cysur yn ôl yr angen a threfnu gofal ar unwaith ar gyfer mân ddamweiniau, afiechydon ac anhwylderau a rhoi gwybod i arweinydd y safle am broblemau difrifol ac achosion tybiedig o berygl neu risg i iechyd.
7. Cefnogi arweinydd y safle:
• Cynorthwyo i reoli'r amgylchedd dysgu o ddydd i ddydd, e.e. paratoi/clirio adnoddau dysgu; rhoi gwybod i arweinydd y safle am eitemau
diffygiol/difrodedig; cyfrannu at greu arddangosiadau o waith y plant a'u cynorthwyo i sefydlu a chynnal meysydd darpariaeth barhaus etc.
• Cyfrannu at gadw cofnodion - e.e. rhoi gwybodaeth berthnasol ar lafar i gyfrannu at gynllunio, arsylwi a gwerthuso dysgu'r plant, a nodi'r cam nesaf iddynt.
• Rhoi adborth i arweinydd y safle am y gweithgareddau dysgu, yr ymatebion iddynt a'r cymorth a roddwyd
• Cynorthwyo i reoli ymddygiad plant
• Cyflawni tasgau gweinyddol rheolaidd
• Trefnu a thacluso cypyrddau
• Tacluso

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS