MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Athro Digymhwyster Pwynt 1-2 (£21,812- £24,348 y flwyddyn)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/awes Mathemateg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd) - Ysgol Y Creuddyn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Athro Digymhwyster Pwynt 1-2 (£21,812- £24,348 y flwyddyn)
Ysgol Y CreuddynFfordd Derwen,
Bae Penrhyn
Llandudno,
LL30 3LB
Rhif Ffôn: 01492 544 3 44
Rhif Ffacs: 01492 547 594
E-bost: swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk
Gwefan: http://moodle.creuddyn.conwy.sch.uk
Athro/Athrawes Mathemateg (hyfforddi fel athro Uwchradd)
Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU'N LLAWN (rhaglen 2 flynedd)
Oriau: Llawn Amser
Cyflog: Statws Athro Digymhwyster Pwynt 1-2 (£21,812- £24,348 y flwyddyn )
Yn eisiau erbyn: Medi 2025 (cytundeb dros dro hyd at 31/08/2027)
Mae Ysgol y Creuddyn yn ysgol ddynodedig Gymraeg sydd wedi ei lleoli ym Mae Penrhyn, ger Llandudno. Ar hyn o bryd, mae dros 700 o ddysgwyr yn yr ysgol gan gynnwys tua 90 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Y mae i'r ysgol naws ofalgar a theuluol ac ethos gynhwysol. Rydym yn ymfalchïo yn ein tîm brwdfrydig a gweithgar o staff sydd yn angerddol am gynnig y ddarpariaeth, y gefnogaeth a'r profiadau gorau i'n dysgwyr o ran eu Dawn, eu Dysg a'i Daioni.
Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen TAR (2 flynedd) a ariennir gan Lywodraeth Cymru, drwy bartneriaeth Y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Cymraeg / Mathemateg / Gwyddoniaeth / Dylunio a Thechnoleg / Ffrangeg / Sbaeneg trwy gyfrwng y Gymraeg, neu'n addysgu Saesneg drwy gyfrwng y Saesneg ond mewn amgylchedd Gymraeg a Chymreig. Mae'r ysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd unai'n gweithio ar hyn a bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad yn y gorffennol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc . Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa yn ogystal â swyddogion ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y Brifysgol hefyd.
Byddai unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol sydd yn angerddol ac yn arloesol mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru. Wrth ddod yn aelod o staff yn Ysgol y Creuddyn, rydych yn ymuno gyda thîm ac yn wir, teulu o bobl arbennig iawn. Y mae i'r ysgol gymuned a naws deuluol nodedig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a'r staff. Mae yma elfen gref o gydweithio a chefnogaeth barod ymysg y tîm o staff, lle mae pob aelod o staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl hwy yn llwyddiant ac yn lles ein plant, ein pobl ifanc, a'n gilydd fel oedolion proffesiynol.
Rydym yn edrych am unigolion sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywyd ein pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol a'i phobl wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.
Mae'r llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad TAR arferol ac mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar gais.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
DISGRIFIAD O'R RHAGLEN
Gofynion mynediad ar gyfer llwybr TAR i addysgu a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddal y canlynol, o leiaf:
- Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
- Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf 50% o berthnasedd i'r pwnc os ydych am addysgu i ddod yn athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.
- Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract amser llawn (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2026 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Miss Sophie Price, Ysgol y Creuddyn , Rhif ffôn 01492 544344 swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk . Croesawir ceisiadau am sgyrsiau anffurfiol gyda'r Pennaeth yn ogystal â'r Penaethiaid Adran perthnasol.
DYDDIAD CAU : Hanner nos, Dydd Mawrth, 04/03/25
(Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 10/03/25)
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English