MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Swyddog Cofrestru
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 09 Chwefror, 2025 12:00 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cofrestru

Cyngor y Gweithlu Addysg
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Fel rhan o’r tîm Cymwysterau a Chofrestru, bydd y Swyddog Cofrestru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith Cofrestru’r CGA. Bydd hyn yn cynnwys cynnal Cofrestr yr Ymarferwyr Addysg, darparu gwasanaeth ymholi proffesiynol a chyfleusterau desg gymorth i ymarferwyr a chyflogwyr, gan weinyddu gwobrwyo Statws Athro Cymwysedig a datblygu a pharatoi adroddiadau ac ystadegau.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda phrofiad o drin ymholiadau amrywiol. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol i’r swydd.

Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gweithio hybrid, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint) pro rata.

Mae ein prosesau recriwtio yn deg, tryloyw a chynhwysfawr, ac ry'n ni'n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Ry'n ni wastad yn chwilio am ystod eang o sgiliau a phrofiadau.