MANYLION
  • Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 17 Chwefror, 2025 12:00 y.p
Mewngofnodwch i ymgeisio

Cydlynydd Canolfan Cynhwysiant

Ysgol Aberconwy
Cydlynydd Canolfan Cynhwysiant

I ddechrau Mawrth 2025 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny)

Mae hon yn swydd lawn amser, barhaol for swydd barhaol : 37 awr yr wythnos, yn ystod tymor ysgol (+10 niwrnod).

Cyflog : G07 : £31,883 to £34,091

Dyddiad Cau : Dydd Llun 17 Chwefror 2025.


Yn Aberconwy, mae gennym ddarpariaeth ragorol ar gyfer cefnogi disgyblion sy’n ‘derbyn gofal’, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, sy’n dangos ymddygiad heriol, neu sy’n profi pryderon diogelu neu iechyd meddwl. Darperir ar gyfer llawer o’u hangenion yn ein Canolfan Cynhwysiant (Y Ganolfan) yn yr ysgol. Mae’n ganolfan yn cefnogi disgyblion sy'n cael anhawster i gael mynediad i wersi prif ffrwd a hefyd yn gartref I’n canolfan arbenigol ar gyfer awtistiaeth (Tegfan). Mae tîm mawr sy’n cydweithio yn y ganolfan i gynnig cdiogelu a chefnogi dysgwyr, gan ddarparu cwricwlwm deniadol gydag ymagwedd gyfannol at les disgyblion.

Felly, rydym yn ceisio penodi cydlynydd brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio gydag athrawon o fewn y ganolfan ac i arwain nifer sylweddol o staff cefnogi wrth addasu i anghenion disgyblion a rheoli a gweithredu ymyraethau angenrheidiol. Byddant yn gweithio’n agos gydag aelodau o’r tïm arwain, a chydag ADD yr ysgol yn benodol, i leihau gwaharddiadau, mynd I’r afael â phryderon diogelu, gwella ymgysylltiad a datblygu systemau ymddygiad sy’n perfformio’n dda ac yn effeithiol yn yr ysgol. Byddant yn coladu, datblygu a chynnal dogfennaeth ADY ar gyfer disgyblion Y Ganolfan gan ddefnyddio eclipse a systemau’r ysgol ar gyfer rhannu gwybodaeth, cymryd rôl arweiniol mewn adolygiadau disgybl-ganolog a sicrhau darpariaeth priodol ar gyfer disgyblion bregus o fewn y ganolfan. Byddant hefyd yn cymryd rôl arweiniol wrth gefnogi disgyblion PDG gan gynnwys monitro cynnydd a lles disgyblion a chyfrannu at ac adolygu eu CAP mewn cydweithrediad â’r ALl ac asiantaethau allanol.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
• Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
• Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
• Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr;
• Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
• Ysbryd cymunedol cryf;
• Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.

Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy’n cynnwys mwy na 1000 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi’i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a’n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 40% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.
JOB REQUIREMENTS
Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeisydd i gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon.

https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/