MANYLION
  • Lleoliad: Ar draws pob campws,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £12.66 - £13.36 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Arholiadau

Coleg Penybont

Cyflog: £12.66 - £13.36 yr awr

Goruchwyliwr Arholiadau

Cytundeb Achlysurol

Graddfa Gyflog 3: £12.66 - £13.36 yr awr

Sylwch, mae hwn yn gontract â thȃl fesul awr sy'n golygu na ellir gwarantu diwrnodau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc i gyd-fynd ag anghenion y gwasanaeth ac felly gallant amrywio.

Mae Coleg Penybont yn chwilio am unigolion i gynorthwyo gydag arholiadau parhaus yn y Coleg.

Bydd gofyn i chi oruchwylio cynnal arholiadau ysgrifenedig a / neu ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys paratoi ystafelloedd a deunyddiau arholiadau a dosbarthu a chasglu papurau arholiad.

Byddwch yn hyddysg mewn cyfrifiadura ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd hefyd gennych sgiliau trefnu da a sylw rhagorol i fanylder. Mae profiad o weithio mewn Coleg neu Ysgol yn ddymunol.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.