MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Gradd 2 (£24,027 x 17.80%)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 2 (£24,027 x 17.80%)
Goruchwyliwr Cynorthwyol (YGG Abercynon)Disgrifiad Swydd
YSGOL GYNRADD GYMRAEG ABERCYNON
Greenfield Terrace, Glancynon, Abercynon. CF454TH
Goruchwyliwr Cynorthwyol
Oriau'r Wythnos: 7 ½ Awr Yr Wythnos
Cyflog: Gradd 2 (£24,027 x 17.80%)
Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 264
Mae'r Corff Llywodraethol am benodi goruchwyliwr cynorthwyol i sicrhau diogelwch a lles y disgyblion yn ystod amser cinio yn unol ag arferion a gweithdrefnau'r ysgol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus dull tawel a chadarnhaol gyda phlant Bydd y rôl yn cynnwys dyletswyddau ystafell fwyta ynghyd â goruchwyliaeth ar yr iard chwarae.
Mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Ysgol Mrs Michelle Barry am fwy wybodaeth (01443 740239).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, Chwefror 14 2025 am 12:00 canol nos.
Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.