MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 87,027 - 100,800 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Chwefror, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Gyfun Penweddig

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 87,027 - 100,800 *

Ynglŷn â'r rôl
Erbyn Medi 2025, mae Corff Llywodraethol Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig am benodi Pennaeth eiddgar sydd â'r weledigaeth a'r gallu i arwain, ysbrydoli ac ysgogi cymuned gyfan.

Mae Ysgol Penweddig yn ysgol flaengar a chyffrous sydd wedi dathlu hanner can mlynedd o addysg cyfrwng Gymraeg yng Ngogledd Ceredigion. Gwahoddir ceisiadau gan addysgwyr profiadol, sy'n frwdfrydig ac ysbrydoledig, i adeiladu ar y dreftadaeth gref hon ac arwain yr ysgol yn gadarn i'r cyfnod nesaf yn ei hanes, a gwireddu'r weledigaeth o ddatblygu ar Barch, Cymreictod ac Ymdrech.

Lleolir Penweddig yn Aberystwyth, tref Prifysgol ac un o drefi mwyaf diwylliannol a hanesyddol Cymru. Mae Sir Ceredigion yn cynnig ansawdd byw o'r lefel uchaf, yn ogystal â bod yn un o'r siroedd harddaf o ran tirwedd yng Nghymru.

Os am fwy o wybodaeth, neu drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Rheolwr Busnes,

Dr Marie Woodling (Ffôn:(01970) 639499, e-bost: woodlingm8@penweddig.ceredigion.sch.uk)

Os am weld mwy o Geredigion, ewch i: www.darganfodceredigion.cymru

> Pecyn Swydd

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Ysgol Gyfun Penweddig Sefydlwyd Penweddig yn 1973 ac mae'r ysgol yn gymuned Gymreig sydd yn seilio ei gwaith ar y gwerthoedd sylfaenol o ofal, parch tuag at ein gilydd a gonestrwydd. Ffocws yr ysgol yw cyflawni potensial pob disgybl a gwneir pob ymdrech i gyrraedd y s...
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy