MANYLION.
  • Lleoliad: Crosskeys,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb : Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog : £16,037 - £17,814.50
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Asesydd Seiliedig yn y Gwaith - Gofal Iechyd / Gofal Plant

Coleg Gwent

Cyflog: £16,037 - £17,814.50

Asesydd Seiliedig yn y Gwaith - Gofal Iechyd / Gofal Plant
Swydd ddisgrifiad
18.5 awr yr wythnos

Bydd y rôl hon yn gweithio ar gampysau Crosskeys a Torfaen Learning Zone.

Rydym yn ceisio penodi asesydd gweithle brwdfrydig sydd â'r gallu i gymell ei hun, i ymuno â'n tîm. Mae hyblygrwydd, gweithio fel rhan o dîm a sylw i fanylion yn rinweddau sydd eu hangen i weithio o fewn y maes cwricwlwm hwn, sy'n ehangu, yng Ngholeg Gwent.

Gan weithio fel rhan o dîm Coleg cyfan bydd gennych ystod eang o ddyletswyddau i gefnogi dysgwyr seiliedig ar waith a'r prosesau asesu, yn y coleg ac mewn lleoliadau gwaith.

Byddwch yn asesu ymgeiswyr ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Plant) yn y gweithle, ac yn cynnal gweithdai gwybodaeth ac asesu. Byddwch hefyd yn rheoli, ac yn cyfrannu at, gwblhau tasgau gweinyddol a gwaith papur yn amserol, yn unol â gofynion cyrff dyfarnu a chyrff cyllido.

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Gofynion a Chydymffurfiaeth

  • Diogelu: Mae'r penodiad yn amodol ar ddal gwiriad DBS Manwl boddhaol a bod yn gofrestredig gyda'r CGA (rhaid i'r ymgeisydd dalu'r costau).
  • Cymwysterau: Rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i'w gyflawni (e.e. TAR) o fewn cyfnod penodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyflogwr gwrth-hiliol a Hyderus o ran Anabledd yw Coleg Gwent, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob math o hunaniaeth a dawn niwroamrywiol, ac anogwn geisiadau oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, pobl LHDTC+ a phobl ag anableddau) yn arbennig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LHDTC+, Anabledd, ayyb) a Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Llesiant Staff

Rydym yn darparu cefnogaeth iechyd gynhwysfawr sy'n cynnwys:
  • Mynediad i'r gampfa a gweithgareddau lles â chymhorthdal.
  • Mynediad i ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
  • Campysau ac ystafelloedd gweddïo hygyrch.

Dyddiad Cau: 11/11/26

Dyddiad Cyfweliad: I'w gadarnhau