MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Gwaith Chwarae (Achlysurol)

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060

Mae hon yn swydd achlysurol am 13 wythnos y flwyddyn, yn ystod gwyliau ysgol.

Bydd y rôl hon yn gofyn i chi gynorthwyo'r Swyddog Chwarae Strategol a Gweithredol i hyrwyddo a sefydlu perthynas waith ag adrannau eraill Cyngor Sir Penfro fel y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn i ni gyrraedd y plant a'r bobl ifanc cywir ar gyfer y ddarpariaeth, gan ddarparu darpariaeth chwarae seibiant byr sy'n deg ac yn gynhwysfawr i gyfoethogi datblygiad personol, cymdeithasol a gwybyddol plant a phobl ifanc anabl.

Bydd disgwyl i chi baratoi a chyflwyno holl sesiynau cynllun chwarae yn ystod y gwyliau; sicrhau bod gofal plant o safon yn cael ei ddarparu, tra'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ysgogol a diogel.

Bydd angen i chi arwain tîm o staff gwaith chwarae a gwirfoddolwyr i ddarparu cyfleoedd chwarae a chefnogaeth i'n mynychwyr. Bydd yn ofynnol i chi sicrhau lefelau staffio priodol bob amser a rheoli'r holl gyfathrebu sy'n ymwneud â'r ddyletswydd hon; gan gynnwys cyflwyno'r holl arian, gwaith papur a gwybodaeth sesiynol i'r rheolwr llinell yn brydlon.

Bydd rhaid i chi sicrhau bod yr holl bolisïau, gweithdrefnau a gwaith papur sy'r ddarpariaeth yn cael eu cadw'n gyfredol ar gyfer rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc, a'r staff.Bydd angen i chi adolygu'r holl bolisïau a gweithdrefnau'n rheolaidd yn unol â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru.

Bydd disgwyl i chi fod â chymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn Gofal Plant a Gwaith Chwarae. Mae angen i chi fod â brwdfrydedd dros hyfforddiant a datblygiad personol. Mae angen profiad blaenorol o weithio gyda phlant/pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae disgwyl eich bod yn meddu ar brofiad o ymgysylltu ac ymgynghori â phlant, rhieni a gofalwyr yn ogystal â gwybodaeth am ddarpariaeth seibiant byr. Mae angen i chi feddu ar brofiad o gyflawni rôl oruchwyliol a thystiolaeth o reoli amser, cynllunio a threfnu effeithiol. Rhaid i chi allu gweithio mewn partneriaeth â thimau a sefydliadau eraill. Mae disgwyl i chi weithio fel rhan o dîm cydlynol a meddu ar y gallu i ddylanwadu, ysgogi a chydlynu sylfaen staff a gwirfoddolwyr. Gofynnir bod gennych brofiad o weithio gyda phrosesau gweinyddol a TG. Rhaid i chi gael agwedd sensitif tuag at ddiogelu data a chyfrinachedd.

Mae'n ofynnol i chi gefnogi a sicrhau cydymffurfedd yn weithredol â'r polisi diogelu, y polisi iechyd a diogelwch, y polisi cyfle cyfartal a'r polisi diogelu data. Efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n ofynnol yn rhesymol gennych chi ac sy'n gymesur â'ch gradd neu lefel gyffredinol eich cyfrifoldeb yn y sefydliad.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.