MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,992 - £27,269 y flwyddyn (G04)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,992 - £27,269 y flwyddyn (G04)
Lleoliad gwaith: Ysgolion Cymraeg ConwyRydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd â sgiliau rhyngbersonol da sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ifanc a helpu i oresgyn anawsterau yn yr ysgol a rhwystrau i fynychu'r ysgol.
Mae'r swydd yn dibynnu ar y gallu i feithrin perthnasoedd â dysgwyr a dealltwriaeth gadarn o'r materion sy'n achosi absenoldeb parhaus. Bydd y gwaith yn cynnwys gwaith un i un a grŵp.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cwblhau ymweliadau cartref a hebryngwyr er mwyn helpu teuluoedd i wella presenoldeb ysgol eu plant. Mae'r gallu i weithio fel rhan o dîm ac i gyfathrebu â gweithwyr proffesiynol amrywiol o fewn ysgolion ac asiantaethau partner yn allweddol. Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i hyrwyddo lles ei blant a'i deuluoedd.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ffion Hughes, Rheolwr Dros-Dro (01492 575032/ Ffion.hughes@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn lefel 4 ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.