MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + TLR2a + ADY
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro + TLR - Ysgol Bryn Castell

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + TLR2a + ADY

Athro + TLR - Ysgol Bryn Castell
Disgrifiad swydd
Athro/Athrawes â chyfrifoldeb TLR am Wyddoniaeth a Thechnoleg gan gynnwys sgìl trawsgwricwlaidd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD)

MPS + ADY + TLR2A

32.5 awr yr wythnos

Mae Llywodraethwyr Ysgol Arbennig Bryn Castell yn dymuno penodi athro/athrawes ysbrydoledig sydd â phrofiad o addysgu disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn amgylchedd ysgol arbennig, i arwain, rheoli a datblygu addysgu a dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar draws yr ysgol i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael eu cynorthwyo i wneud cynnydd yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn.

Bydd yr athro/athrawes yn gweithio ar y cyd â staff yr ysgol i arwain a rheoli'r cwricwlwm i fodloni gofynion Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod sgiliau trawsgwricwlaidd FfCD yn galluogi datblygu disgyblion ac yn sicrhau cymaint o gynnydd â phosibl disgyblion ar draws y cwricwlwm.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth, profiad a dealltwriaeth o'r Cwricwlwm i Gymru a dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yn angerddol am weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu addysgu a dysgu ymhellach er mwyn galluogi pob person ifanc i gyflawni ei botensial llawn, drwy gynllunio effeithiol sy'n canolbwyntio ar y person.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 07 Chwefror 2025
Dyddiad llunio rhestr fer: 10 Chwefror 2025
Dyddiad Cyfweld: 18 Chwefror 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person