MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: G04 : £22,366 - £23,464
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Llanw - Ysgol Aberconwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: G04 : £22,366 - £23,464

Ysgol Aberconwy

Goruchwyliwr Llanw

Ystod Cyflog : G04 : £22,366 - £23,464

Mae hon yn swydd barhaol o 37 awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 niwrnod.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : Dydd Llun 3ydd Chwefror 2025.

Dyddiad Cychwyn : Chwefror 2025

Gallu cyfathrebu yn Gymraeg: Dymunol

Rydym yn ceisio penodi Goruchwyliwr Cyflenwi brwdfrydig a llawn cymhelliant i gefnogi myfyrwyr ar draws yr ysgol. Byddant yn gweithio dan arweiniad y staff addysgu i gefnogi dysgu yn eu dosbarthiadau ac i weithredu rhaglenni gwaith gydag unigolion neu grwpiau trwy oruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr athrawon. Byddant yn cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol a gallant hefyd ddarparu cymorth gweinyddol, yn ogystal â chefnogi myfyrwyr y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Gweithdrefnau Diogelu

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Gan gofio hyn, hoffem dynnu eich sylw at y materion canlynol:

Gwneir pob penodiad yn amodol ar y canlynol:

Gwiriadau GDG manwl;

Gwiriadau o statws proffesiynol (CGA; QTS ayyb.)

Cadarnhad o gymwysterau proffesiynol;">Derbyn geirdaon cryf (os na chawsant eu derbyn erbyn y cyfweliad);">Cliriad meddygol

Rydym ond yn derbyn ceisiadau a gwblhawyd ar ffurflen gais Conwy gyda llythyr eglurhaol. Os gwelwch yn dda, peidiwch â gyrru CV neu dystebau agored.

This form is also available in English.