MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Clerc Gweinyddol / Clercyddol i’r Corff Llywodraethu (Lefel 2)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr

Clerc Gweinyddol / Clercyddol i'r Corff Llywodraethu (Lefel 2)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Yn atebol i'r Corff Llywodraethu am roi cymorth clercyddol/gweinyddol i alluogi'r Corff Llywodraethu (y Corff) i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol. Gelwir y swydd yn Glerc i'r Corff Llywodraethu.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â'r Ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am les unigolion neu grwpiau, heblaw parch/cwrteisi cyffredin at eraill.
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd, os o gwbl, am oruchwylio staff eraill.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd, os o gwbl, am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin offer a'i ddefnyddio'n ofalus (e.e. cyfrifiadur).

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS