MANYLION
  • Lleoliad: Llanisien, Cardiff, CF14 5GF
  • Testun: Gwaith Ieuenctid
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,601 - £22,058
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Gweinyddol

Swyddog Gweinyddol

Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Swyddog Gweinyddol
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Graddfa 2: £19,601 (Pwynt 1) - £22,058 (Pwynt 4) y flwyddyn
Lleoliad: Swyddfa’r Urdd, Llanisien, Caerdydd

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad sy’n parhau i dyfu ac arloesi, ac yn un o’r cyflogwyr mwyaf sy’n gweithredu trwy'r Gymraeg. Fe sefydlwyd yn 1922, ac erbyn heddiw cyflogir dros 300 o staff, bron 55,000 o aelodau, 10,000 o wirfoddolwyr a throsiant o £10m. Byddwn yn dathlu ein pen-blwydd yn 100 yn 2022 gan weithio gydag ein haelodau a’n gwirfoddolwyr ynghyd ac amryw o bartneriaid sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, BBC, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Chwaraeon Cymru, Ysgolion a Cholegau Cymru.

Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darpariaeth o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw meithrin gweithlu ifanc, hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu, i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

https://www.urdd.cymru/cy/prentisiaethau/

Y Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson eiddgar, trefnus a brwdfrydig i ymuno ag Adran Prentisiaethau'r Urdd fel Swyddog Gweinyddol.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Lisa Waters (Cydlynydd Hwb Sgiliau Hanfodol) lisawaters@urdd.org neu Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau) gary@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Dyddiad Cau – 26 Mai 2022
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau