MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Brynmenyn Primary,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Mawrth, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Brynmenyn - Dros Dro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Brynmenyn - Dros DroDisgrifiad swydd
Dros dro dau dymor i ddechrau – gan ddechrau cyn gynted â phosibl.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Brynmenyn yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant â phrofiad o addysgu yn rhan uchaf Cyfnod Allweddol 2.
Bydd angen i'r athro/athrawes a benodir:
Ddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth.
Gallai gyrraedd safonau uchel drwy ddisgwyliadau uchel o gynnydd ac ymddygiad.
Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru a dangos gwybodaeth am arwain un o feysydd y cwricwlwm.
Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth dda o anghenion dysgu ychwanegol.
Gallu gweithio mewn partneriaeth agos â'r holl staff yn y lleoliad ysgol.
Ymrwymedig i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a gwella'r ysgol.
Gallu cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.
Dangos agwedd gadarnhaol ac uniaethu â gwerthoedd ac ethos yr ysgol.
Croesewir ceisiadau gan athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Plant Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 03 Chwefror 2025
Dyddiad Cyfweld: 10 Chwefror 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person