MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: ISR: 7-13 (Grŵp 1b)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: ISR: 7-13 (Grŵp 1b)
Pennaeth (Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant)Swydd-ddisgrifiad
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol
PENNAETH
(Swydd Barhaol)
Yn eisiau ar gyfer Medi 1af, 2025
ISR: 7-13 (Grŵp 1b)
Nifer o ddisgyblion ar y gofrestr:84
Dymuna Corff Llywodraethol Ysgol Llanrhaeadr ym Mochnant, sef ysgol gynradd dwy ffrwd yn Nyffryn Tanat, yng nghanolbarth Cymru, benodi Pennaeth a fydd yn parhau i symud ein hysgol hapus, flaengar ymlaen.
Rydym am benodi arweinydd sydd:
- Yn ysbrydoli ac yn cymell y staff, y disgyblion a'r gymuned.
- Yn dangos sgiliau arwain a rheoli effeithiol.
- Yn ymarferydd arloesol, brwdfrydig a deinamig.
- Â disgwyliadau uchel ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.
- Yn gallu hyrwyddo gwaith tîm effeithiol.
- Yn meddu ar wybodaeth gyfoes o ddatblygiadau cyfredol y cwricwlwm, yn lleol ac yn genedlaethol;
- Yn cyfathrebu'n effeithiol efo'r holl randdeiliaid.
- Staff brwdfrydig ac ymroddedig
- Corff Llywodraethol cefnogol
- Plant sy'n cael eu gwerthfawrogi, yn hapus ac yn awyddus i ddysgu mewn ysgol ddwyieithog
- Amgylchedd gweithio a dysgu deniadol a dymunol
Am wybodaeth pellach, neu i drefnu ymweliad â'r ysgol cysylltwch â Chadeirydd y Corff Llywodraethol - Mr Lewis Ash, ashl24@llanrhaeadr.powys.sch.uk
Gwefan yr ysgol: https://www.ysgol-llanrhaeadr-ym.com/
Rhagdybir y bydd y cyfarfod llunio rhestr fer a'r cyfweliadau ar y dyddiadau canlynol:
Dyddiad cau: 16/02/25 (21:00)
Rhestr Fer: 18/02/25
Cyfweliadau: 12/03/25
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Diogelu a Gwahardd.